Biliynau'n ddyledus i Gymru o achos HS2, meddai Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Dylai Cymru gael £4bn yn ychwanegol o arian o brosiect rheilffordd HS2 a mwy o reolaeth dros eu hadnoddau naturiol, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Wrth gyhoeddi eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol, dywedodd Rhun ap Iorwerth bod y blaid am weld model ariannu "teg" i Gymru, a chynnydd o £20 mewn budd-dâl plant.
Dywedodd hefyd ei fod am weld system dreth "decach", datganoli pwerau'r heddlu i Gymru ac i'r DU ail-ymuno gydag undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd.
Dyw Llafur ddim yn cynnig “newid go iawn” ar ôl 14 mlynedd o “doriadau ac anhrefn gan y Torïaid”, meddai Rhun ap Iorwerth.
Pwysleisiodd y byddai Plaid Cymru "yn rhoi buddiannau gorau Cymru yn gyntaf".
Wrth gyhoeddi'r maniffesto ddydd Iau dywedodd bod y model ariannu i Gymru wedi dyddio a bod angen system newydd sy'n seiliedig ar anghenion y wlad.
"Dyna be' yw'r peth cywir i wneud... sicrhau buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a'r economi," meddai.
Dylai rheolaeth dros Ystâd y Goron gael ei datganoli hefyd, fel bod elw o’i heiddo yn mynd i’r llywodraeth yng Nghaerdydd, nid y Trysorlys yn Llundain, meddai Mr ap Iorwerth.
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
Mae bob plaid yn y Senedd wedi dweud y dylid ychwanegu at gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i gynllun rheilffordd HS2.
Ond o dan y Ceidwadwyr, gwrthododd Llywodraeth y DU roi’r prosiect mewn categori a fyddai’n rhyddhau mwy o arian i Gymru, ac mae Llafur hefyd wedi gwrthod addo gwneud hynny.
Ym mis Mawrth dywedodd Syr Keir Starmer y byddai’n rhaid i Lywodraeth Lafur “adolygu hynny a gwneud penderfyniadau pan fyddwn ni’n gallu”.
Mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd arian sy'n cael ei arbed o ddileu cam nesaf HS2 yn cael ei wario ar drydaneiddio’r brif reilffordd yng ngogledd Cymru.
Dywedodd Mr ap Iorwerth fod £4bn yn ddyledus i Gymru o brosiect HS2, y gwasanaeth trên cyflym, fydd yn dod i ben yn Birmingham.
“Byddwn yn brwydro bob dydd am y biliynau sy’n ddyledus i Gymru o brosiect rheilffordd cyflym HS2," meddai.
"Dychmygwch be allwn ni wneud er mwyn trawsnewid ein trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru - bysiau, ffyrdd a rheilffyrdd - gan gysylltu ein cymunedau ni a rhoi hwb i'r economi."
Mae'r maniffesto hefyd yn addo cynyddu budd-dâl plant £20 yr wythnos, gan ddweud y byddai hynny'n golygu na fyddai 60,000 o blant yn byw mewn tlodi mwyach.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac un o ymgeiswyr y blaid, Liz Saville Roberts, bod angen "atal Syr Keir Starmer rhag cymryd Cymru yn ganiataol", gan gyhuddo'r Ceidwadwyr o "ymosod ar ddemocratiaeth" yng Nghymru.
Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Daniel Davies
Mae’n etholiad, meddai Rhun ap Iorwerth, gyda chanlyniad anochel: buddugoliaeth i Lafur.
Os felly, mae 'na berygl bod pleidlais Plaid Cymru yn cael ei gwasgu.
Felly mae e wedi cyhoeddi maniffesto wedi ei dargedu at bleidleiswyr asgell chwith – maniffesto sydd i fod i gyffroi pobl sydd wedi eu siomi gan Sir Keir Starmer
Dyna pam ni’n darllen am gynyddu budd-daliadau a galw am heddwch yn Gaza.
Mae 'na addewidion i gryfhau Senedd Cymru ac ailymuno â marchnad sengl Ewrop hefyd.
Gobaith Plaid Cymru yw bydd y ddogfen hon at ddant pleidleiswyr mewn seddi ble maen nhw a Llafur yn ceisio gwthio’r Ceidwadwyr allan - Ynys Môn a Caerfyrddin.
Chafodd annibyniaeth ddim ei grybwyll gan Mr ap Iorwerth yn ei araith, ond mae'r maniffesto yn nodi y bydd y blaid yn cyhoeddi 'papur gwyrdd' er mwyn amlinellu sut y bydd Cymru'n dod yn wladwriaeth annibynnol.
Does dim dyddiad yn y maniffesto ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth, ond mae'r blaid yn dweud y dylai'r Senedd allu galw pleidlais petaen nhw eisiau gwneud hynny.
Mae Plaid Cymru am weld swydd Ysgrifennydd Cymru o fewn Llywodraeth Cymru yn dod i ben, gan ddweud "nad ydyn ni angen sedd wrth fwrdd y cabinet".
Datganoli pwerau'r heddlu
Mae'r maniffesto yn nodi y byddai datganoli pwerau'r heddlu i Gymru "yn caniatáu i ni ddatblygu ffordd Gymreig o blismona".
Maen nhw'n galw am o "ddadgriminaleiddio cyffuriau" a chyflwyno ystafelloedd defnyddio cyffuriau ledled Cymru er mwyn hwyluso agwedd fwy dyngarol a chynaliadwy at faterion caethiwed i gyffuriau".
Mae'r maniffesto hefyd yn dweud y dylai "cynhyrchwyr olew, ynni a’r cwmnïau ynni yn eu plith gael eu trethu’n briodol" ac "y dylai cwmnïau ynni wynebu treth gorelw uwch".
Byddai'r blaid hefyd "yn ail-gyflwyno’r cap ar daliadau bonws i fancwyr".
Undeb tollau
Roedd Plaid Cymru am aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn y maniffesto maen nhw'n dweud eu bod "yn parchu canlyniad y refferendwm ond am i’r Ceidwadwyr yn [sic] ein harwain ar lwybr dinistr, credwn y dylai’r DG ail-ymuno â’r Farchnad Sengl Ewropeaidd a’r Undeb Tollau mor fuan ag sydd modd, er mwyn lliniaru effaith Brexit ar fusnesau Cymreig".
Mae'r blaid hefyd yn dweud y dylai pwerau dros ddarlledu gael eu datganoli a bod Cymru "yn cymryd rheolaeth lawn dros Ystâd y Goron yng Nghymru".
Maen nhw'n dweud y byddai hynny'n golygu "y dylid dychwelyd yr elw" o unrhyw fuddsoddi gan Ystâd y Goron mewn prosiectau ynni yn nyfroedd Cymru.
Mae'r blaid am weld Cymru yn rheoli ei holl adnoddau naturiol a dyfroedd.
Yn dilyn newid ffiniau, mae Plaid Cymru yn amddiffyn dwy etholaeth - Dwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
Mae’n brwydro yn erbyn Llafur a’r Ceidwadwyr i ennill dwy sedd darged arall - Caerfyrddin ac Ynys Môn.
Cafodd Mr ap Iorwerth ei benodi'n arweinydd fis Mehefin y llynedd pan y bu'n rhaid i’w ragflaenydd, Adam Price, gamu lawr ar ôl i adroddiad mewnol damniol o’r blaid.
Fis diwethaf, fe gyhoeddodd y blaid eu bod wedi dod â'r Cytundeb Cydweithio gyda llywodraeth Lafur Cymru i ben.
Pleidleisiodd y blaid yn erbyn y prif weinidog Vaughan Gething mewn pleidlais o ddiffyg hyder y mis hwn.