Cais i ddenu ffeinal Cynghrair Pencampwyr y Merched 2029 i Gaerdydd

Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i UEFA gyhoeddi pwy fydd yn cynnal y rownd derfynol ym mis Medi y flwyddyn nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi gwneud cais swyddogol i gynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y Merched yng Nghaerdydd yn 2029.

Roedd y gymdeithas wedi bwriadu gwneud cais i gynnal ffeinal y gystadleuaeth yn 2027, ond cafodd y cais ei ohirio yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

Yn ogystal â Chymru (Stadiwm Principality, Caerdydd), mae cymdeithasau pêl-droed Ffrainc (Parc Olympique Lyonnais, Lyon), Gweriniaeth Iwerddon (Dublin Arena, Dulyn) a'r Swistir (St. Jakob-Park, Basel) wedi cyflwyno cais i gynnal y rownd derfynol yn 2029.

Mae disgwyl i UEFA gyhoeddi enillydd y broses ym mis Medi 2026.

Nid dyma fyddai'r tro cyntaf i'r rownd derfynol gael ei chynnal yng Nghaerdydd - nôl yn 2017 cafodd y gêm ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cafodd ffeinal cystadleuaeth y dynion - rhwng Real Madrid a Juventus - ei chynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn honno hefyd, a hynny yn Stadiwm Principality.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.