Carchar am o leiaf 19 mlynedd i ddyn am lofruddio'i ffrind gorau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 24 oed wedi cael dedfryd oes am lofruddio'i ffrind gorau yn eu cartref yng Nghaerdydd ar noswyl Nadolig.
Fe wnaeth Dylan Thomas - ŵyr i sylfaenydd cwmni pastai Peter's Pies, Syr Stanley Thomas - drywanu William Bush 37 o weithiau.
Bu farw Mr Bush, 23, o'i anafiadau y tu allan i'r tŷ, sydd dafliad carreg o Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Roedd William Bush a Dylan Thomas wedi bod yn ffrindiau ers iddyn nhw gyfarfod yng Ngholeg Crist, Aberhonddu.
Dywedodd y barnwr, Mrs Ustus Steyn fod Thomas wedi "cymryd mab oddi wrth ei fam a'i dad, a rhoi profedigaeth i fenyw yr oedd yn ei charu".
Bydd yn rhaid i Thomas dreulio o leiaf 19 mlynedd dan glo.
Cafwyd Thomas yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd fis Tachwedd y llynedd ar ôl achos llys wythnos o hyd.
Roedd Thomas wedi cyfaddef dynladdiad ond fe wadodd ei fod wedi llofruddio ei ffrind er ei fod wedi chwilio ar-lein am fanylion anatomeg y gwddf oriau cyn yr ymosodiad.
Wythnosau cyn y digwyddiad ar 24 Rhagfyr, 2023, roedd Thomas wedi cael ei arestio am geisio dringo ffens ym Mhalas Buckingham.
Mae wedi bod cael triniaeth am sgitsoffrenia ysbyty diogel Ashworth.
Dywedodd yr erlyniad fod Thomas yn gallu rheoli yr hyn oedd yn ei wneud adeg y llofruddiaeth a bod yr "ymosodiad wedi'i gynllunio" gan fod Thomas wedi "arfogi ei hun yn fwriadol â chyllyll ac wedi ymosod ar Bush o'r tu ôl".
Yn ystod yr achos dywedodd arbenigwr wrth y llys fod Thomas wedi bod yn seicotig am fisoedd cyn yr ymosodiad.
Clywodd y rheithgor hefyd iddo ddweud wrth yr heddlu ar ôl cael ei arestio mai ef oedd Iesu ac fe ddywedodd wrth un plismon y gallai gael "swydd gyda Duw" iddo.
Roedd arbenigwr yr erlyniad yn gwadu ei fod o'n dioddef seicosis pan drywanodd ei ffrind 37 o weithiau.
Yn ystod yr achos fe ddywedodd Gregory Bull KC, ar ran yr erlyniad, bod Mr Bush yn boblogaidd ond mai ychydig o ffrindiau oedd gan Thomas a'i fod yn cael ei weld yn berson mwy unig.
Roedd Orlando Pownall KC, ar ran yr amddiffyn, wedi dweud nad oedd unrhyw amheuaeth bod Thomas yn seicotig, a dywedodd fod yr anghydfod ynghylch amserau.
Dywedodd Mr Pownall hefyd fod Thomas wedi bod trwy "lawer o sefyllfaoedd dirdynnol" - roedd ei rieni wedi gwahanu a honiadau o "drais domestig".
'Ymosodiad ffyrnig'
Fe dreuliodd y rheithgor dair awr yn trafod y dystiolaeth cyn penderfynu bod Dylan Thomas yn euog o lofruddio William Bush.
Wrth ddedfrydu Thomas ddydd Gwener, dywedodd y barnwr bod yr ymosodiad yn un "ffyrnig" ar "ddyn ifanc talentog gyda dyfodol disglair o'i flaen".
Roedd yr ymosodiad, meddai, wedi dechrau yn ystafell wely Mr Bush a pharhau trwy'r tŷ i'r fan parcio tu allan "wrth iddo geisio dianc oddi wrthoch".
Dywedodd bod "ymddygiad rhyfedd ac eratig" y diffynnydd yn y misoedd cynt wedi achosi i'r ffrind boeni am ei iechyd meddwl.
Roedd Mr Bush wedi dweud wrth ei gymar ei fod ar un achlysur wedi "cau ei hun yn ei ystafell" wedi i Thomas ddweud "ei fod yn dyfalu sut beth fyddai i'w ladd", ac fe glywodd Thomas yn ceisio, heb lwyddo, i fynd i'r ystafell.
Ym marn Mrs Ustus Steyn doedd salwch meddwl Thomas heb amharu'n ddigonol ar ei allu i wneud penderfyniadau synhwyrol.
Ychwanegodd nad oedd yn "gwbl argyhoeddedig" ei fod yn wir ddifaru'r hyn a wnaeth.
Roedd Catrin Bush, chwaer William, ymhlith y rhai a roddodd ddatganiadau i'r llys ddydd Gwener yn amlygu effaith y farwolaeth arnyn nhw.
Dywedodd y cafodd "bywyd Will ei gymryd oddi arno yn y ffordd fwyaf barbaraidd a chreulon".
Ag hithau newydd ddyweddïo wythnosau cyn y llofruddiaeth, dywedodd bod trefnu priodas "yn rhy boenus heb Will yno".
Gan annerch y diffynnydd yn uniongyrchol, dywedodd ei fod yn berson "ystrywgar a drwg" oedd "heb ddangos unrhyw edifeirwch", a'i bod yn gobeithio y bydd yn treulio'i "holl oes yn y carchar".
'Tywyllwch amhosib ei ddisgrifio'
Dywedodd tad William Bush, John, bod ei fab "wedi colli ei fywyd yn y ffordd fwyaf ddiangen a gresynus" dan law rhywun yr oedd yn ei ystyried yn gyfaill.
"Fe newidiodd ein bywydau am byth mewn ffordd ddwfn a sylfaenol..." meddai. "I ni does dim roi'r peth y tu ôl i ni... nid galar cyffredin mo hwn."
"Mae ei ysbryd yn goroesi ynddom ni, ei haelioni, ei deyrngarwch, ei synnwyr o gyfiawnder ac yn fwyaf oll, ei awydd i garu."
Ychwanegodd na fydd yn bosib i'r teulu ddathlu'r Nadolig "am lawer o flynyddoedd" a bod anrhegion Nadolig ei fab yn dal yn ei gar.
Dywedodd ei gymar, Ella Jefferies ei bod "wedi colli dyfodol roedden ni'n dau wedi paratoi ar ei gyfer" a bod ei farwolaeth wedi "gadael tywyllwch amhosib ei ddisgrifio".
Yn ei dagrau, dywedodd: "Will oedd cariad fy mywyd ac roedd yn golygu popeth i mi. Fyddai'n goleuni unrhyw 'stafell... roedd yn caru ei deulu'n fawr a byddai'n gwneud unrhyw beth i'w gwarchod."
Dywedodd ei bod wedi rhedeg yn hanner marathon y llynedd er cof amdano wedi i'r ddau gymryd rhan gyda'i gilydd am y tro cyntaf yn 2023.
"Bydd bywyd byth yr un peth heb Will."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024