Lluniau gwanwyn Galwad Cynnar
- Cyhoeddwyd
Adar yn nythu, y gwenoliaid yn cyrraedd a'r perthi'n blodeuo - dros yr wythnosau diwethaf mae gwrandawyr Galwad Cynnar wedi bod yn dogfennu'r byd natur o'u cwmpas.
Dyma ddetholiad o luniau'r gwanwyn sydd wedi eu rhannu ar grŵp Facebook y rhaglen.
Gwrandewch ar Galwad Cynnar ar BBC Radio Cymru am 0700 bob bore Sadwrn, ac yna ar BBC Sounds.

Un wennol ni wna wanwyn... y wennol gyffredin yn hedfan uwchben Ynys Môn

Yn y bore ma'i dal hi... llun Iolo Hughes o Lyn Tegid am bump y bore

Titw Tomos Las yn casglu gwlân i wneud nyth ar Ynys Môn. Fe wnaeth Derec Owen dynnu'r lluniau yma gyda'r camera ar ei ffôn

'Dyfod pan ddêl y gwcw' - arwydd amlwg o'r gwanwyn yng Nghwm Pennant

Fel nifer fawr o bobl ar draws Cymru, fe gafodd Sharon Jones-Williams luniau trawiadol o Lewyrch yr Arth, neu'r Aurora Borealis, fis Mai. Roedd rhain ym Mhenmynydd a Phentre Berw ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd11 Mai 2024

Enfys ddwbl yn Nghors Ddyga, Ynys Môn, gan Sharon Jones-Williams...

... a'r elyrch yma yn yr un lleoliad

Y fuwch goch gota harlequin (Harmonia axyridis), rhywogaeth Asiaidd anfrodorol, sydd bellach yn un o rywogaethau mwyaf cyffredin y DU. Roedd yr un yma yng nghoed Bryn Euryn, yn Llandrillo yn Rhos

Dal haul y gwanwyn...

Mae'r gwanwyn yn gyfnod o fynd am dro ac arafu i weld byd natur... ac mae'r fainc yma ar Y Garth, ger Porthmadog, wedi gweld sawl gwanwyn

Llygad Ebrill - sy'n blodeuo'n gynt y dyddiau hyn na'r mis y cafodd ei enwi ar ei ôl

Teitl Oswyn Williams o'r olygfa yma yn Ninas Dinlle, ger Caernarfon, ydi 'Y Meistr, ei brentis a'r lleidr chips'

Gyda chynesrwydd y gwanwyn mae mwy o bryfaid cop yn ymddangos - fel y copyn hela (Pisaura mirabilis) yma. Yn ôl Harri Williams, a dynnodd y llun: "Mae'r oedolion yn helwyr actif ac nid ydynt yn troelli gwe i ddal bwyd, yn hytrach maent yn defnyddio rhediad cyflym i ddal pryfed a thrychfilod eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2020