Dyn wedi'i bigo 160 o weithiau gan wenyn meirch yn ei dŷ

Andrew PowellFfynhonnell y llun, Andrew Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Powell yn dweud ei fod yn "lwcus i fod yn fyw" ar ôl cael ei bigo 160 o weithiau

  • Cyhoeddwyd

Cafodd dyn ei bigo 160 o weithiau gan wenyn meirch ar ôl i’r pryfed ymosod ar ei gartref.

Dywedodd Andrew Powell, 57, nad yw wedi gallu cysgu oherwydd y boen ers yr ymosodiad ddydd Sul, a bu angen triniaeth ysbyty.

Dywedodd y trefnwr gwyliau o Aberhonddu fod yr awyr wedi "troi'n frown" gyda gwenyn meirch ar ôl i ffermwr lleol darfu ar nyth mewn cae.

"Mi wnes i faglu o gwmpas blaen y tŷ ac i mewn i'r gawod, ond fe wnaethon nhw fy nilyn i, a'm pigo trwy fy nillad yn y gawod," meddai.

"Roedd yr ystafell ymolchi yn llawn ohonyn nhw."

Dywedodd iddo gael ei bigo 15 o weithiau ar gefn ei ben, ond fe lwyddodd i osgoi cael ei bigo ar ei wyneb.

Ffynhonnell y llun, Andrew Powell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr ystafell ymolchi "yn llawn" gwenyn meirch, meddai Mr Powell

"Roeddwn i'n rhedeg yn gyflym," meddai.

Dywedodd fod ei ffrind Richard, sy'n byw gerllaw, wedi ei yrru'n syth i uned mân anafiadau Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu.

"Roeddwn i'n ymwybodol a wedyn yn anymwybodol," meddai.

"Y cyfan roeddwn i'n gallu ei weld oedd golau gwyn ac ro'n i'n meddwl 'here we go'."

Dywedodd fod nyrsys yn "anhygoel" ac yn rhoi adrenalin, morffin a co-codamol ar gyfer y boen.

"Os na fydden nhw wedi, mi fydden i wedi marw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Andrew Powell
Disgrifiad o’r llun,

"Cafodd y meddyg sioc pan welodd 160 pigiad," meddai Mr Powell

Ar ôl ei driniaeth yn Aberhonddu cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful yn ddiweddarach nos Sul.

"O'r diwedd daeth y meddyg yno i'm gweld tua 02:30 yn y bore a dweud wrthyf ei fod yn credu fy mod wedi dioddef cwpl o bigiadau," meddai.

"Cafodd y meddyg sioc pan welodd 160 pigiad."

Erbyn hyn mae Mr Powell, sy'n helpu trefnu Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog, yn gwella gartref ar gyrion Aberhonddu.

"Rwy'n teimlo'n eithaf gwan a blinedig oherwydd dydw i ddim wedi cysgu ers iddo ddigwydd oherwydd mae 'na ormod o boen," meddai.

“Mae'r pigiadau wedi gwaethygu ac wedi troi'n biws."

Ffynhonnell y llun, Andrew Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew - gyda'i wraig, Gina, yn y llun - yn dweud nad yw wedi gallu cysgu oherwydd y boen o'r pigiadau

Ar ôl diolch i staff, dywedodd Mr Powell ei fod yn bryderus am gynlluniau i gwtogi oriau gweithredu uned mân anafiadau Aberhonddu.

"Mae ar agor 24 awr nawr, ond mae'n gallu bod mor brysur, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf gyda'r holl bobl sy'n ymweld â Bannau Brycheiniog.

"Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd ei angen arnoch chi.

"Oni bai am yr uned honno yn Aberhonddu a'r ddwy nyrs wych yna nos Sul, fyddwn i ddim yma nawr... rydw i'n mynd i ymladd drosto."

Beth ddylech ei wneud os yw gwenyn meirch yn eich pigo?

Mae gwenyn meirch ond yn pigo fel arfer os ydyn nhw’n teimlo dan fygythiad, medd Natalie Bungay, swyddog technegol Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain (BPCA).

"Y broblem yw bod gwenyn meirch mewn trallod yn allyrru fferomon sy'n anfon gwenyn nythfa gyfagos i wylltineb amddiffynnol, pigog," meddai.

Yn wahanol i wenyn, nid yw gwenyn meirch yn marw ar ôl un pigiad ac mae'n nhw'n debygol o'ch pigo sawl tro.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall gwenyn meirch bigo mwy nag unwaith

Cyngor y GIG yw peidio â chwifio eich breichiau na swatio gwenyn meirch ond aros yn ddigynnwrf a symud i ffwrdd yn araf.

Os cewch eich pigo dylech dynnu unrhyw bigiadau sydd ar ôl yn y croen a golchi'r ardal â sebon a dŵr.

Mae meddygon yn argymell rhoi rhew neu wlanen oer ar y croen am 10 munud a chodi'r rhan o'r corff i leihau chwyddo.

Pynciau cysylltiedig