Technoleg wrth galon ymdrechion i adfer y gylfinir

Y GylfinirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bryder am ddyfodol y gylfinir fel aderyn sy'n magu cywion yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae offer tracio a dronau yn cael eu defnyddio fel rhan o ymdrech i adfer aderyn sy'n adnabyddus am ei gri hiraethus.

Roedd y gylfinir yn arfer bod yn aderyn cyfarwydd yng nghefn gwlad Cymru ond mae 'na bryder am ei ddyfodol fel aderyn sy'n magu cywion yma.

Mae niferoedd sy'n gwneud hynny wedi mwy na haneru mewn 20 mlynedd ac yn parhau i ostwng 6% bob blwyddyn.

Mae Bethan Beech yn gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gynllun i adfer niferoedd y gylfinir: "Os mae pethau'n dal ymlaen fel maen nhw, byddwn ni 'di colli'r gylfinir yn magu yng Nghymru yn llwyr erbyn 2033".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Beech yn gweithio ar gynllun i adfer niferoedd y gylfinir yng Nghymru

Mae'r aderyn yn hoff o nythu ar weunydd ond mae colli cynefin oherwydd ymdrechion i ddraenio tir, wedi cyfrannu at ei ddirywiad dramatig.

Mae 'na ymdrech fawr i'w helpu mewn 12 ardal yng Nghymru gan gynnwys cynllun CNC yng ngwarchodfa natur Fenn's, Whixall a Bettisfield ger Wrecsam.

Yma, mae dyfeisiau tracio GPS yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddilyn yr adar ar hyd y flwyddyn ac wrth geisio darganfod nythod er mwyn cymryd camau i'w gwarchod.

Disgrifiad o’r llun,

Y ddyfais tracio GPS sy'n cael ei defnyddio gan CNC

Mae drôn gyda chamera darlunio thermol yn gwneud gwaith tebyg.

"Maen nhw'n ofnadwy o anodd i'w gweld pan 'dych chi'n cerdded ar y tir ond o'r awyr ry' ni'n gallu gweld nhw heb amharu arnyn nhw o gwbl," meddai Ms Beech.

Ond fydd y dechnoleg ynddo'i hun ddim yn ddigon i warchod y gylfinir.

"Beth mae'r dechnoleg wedi ein galluogi ni i'w wneud ydi dysgu gymaint mwy am sut mae'r gylfinir yn defnyddio'r tirwedd," ychwanegodd.

"Ry' ni angen diogelu'r gylfinir o fewn tirwedd amaethyddol. Byddwn ni a chynllun Gylfinir Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu hynny dros y blynyddoedd nesaf fel bo' ni'n gallu helpu ffermwyr i helpu'r gylfinir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dechnoleg newydd wedi helpu'r tîm i ddysgu mwy am ymddygiad y gylfinir

Tra bod rhai ffermwyr wedi gwrthwynebu elfennau o Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, mae'r RSPB yn dweud iddyn nhw gael tipyn o gefnogaeth i rai o'u cynlluniau nhw ar gyfer adfer cynefin y Gylfinir.

Hannah Baguley yw Swyddog Cyswllt y gwaith yn Ysbyty Ifan a Hiraethog.

"Mae gennym ni nifer fawr o ffermwyr sy'n gefnogol o'r prosiect ac mae nifer fawr o'r ffermwyr wedi bod yn cydweithio gyda natur i warchod y gylfinir cyn i'r prosiect ddechrau," meddai.

"Fel ffliwt hyfrydlais uwch y rhos" meddai R Williams Parry am gan hiraethus y gylfinir.

Cydweithio i geisio sicrhau bod ei gân yn sŵn cyfarwydd unwaith eto yw'r nod.