Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio babi pum mis oed

Fe wnaeth Thomas Morgan ymddangos yn Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio babi pum mis oed.
Mae Thomas Morgan, 28, o Orseinon ger Abertawe wedi ei gyhuddo o lofruddio Jensen-Lee Dougal yng Nghlydach ar 30 Mawrth 2024.
Fe wnaeth ymddangos drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun i gadarnhau ei enw mewn gwrandawiad byr.
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC wrth Mr Morgan fod disgwyl iddo ymddangos eto yn y llys ar 5 Medi.
Clywodd y llys y gallai achos ddechrau ar 6 Ionawr y flwyddyn nesaf.
Fe fydd Mr Morgan yn cael ei gadw'n y ddalfa.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl