Pryder am ddyfodol Ysgol Gymraeg Llundain yn sgil diffyg cyllid

Llun o Ysgol Gymraeg Llundain. Mae ceir wedi parcio y tu allan.
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Ysgol Gymraeg Llundain ei sefydlu ym 1958, ac mae dwsin o blant yno ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na bryder am ddyfodol Ysgol Gymraeg Llundain yn sgil diffyg cyllid digonol.

Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn derbyn grant o £90,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru.

Ond mae'r Ceidwadwyr yn honni bod y llywodraeth yn bwriadu dod â'r grant i ben.

Dywed, Glenys Roberts, cadeirydd y llywodraethwyr bod Llywodraeth Cymru wedi dweud "eu bod eisiau ail bwrpasu'r arian".

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd gydag Ysgol Gymraeg Llundain, ac yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.

"Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn Llundain."

Llun o Glenys Roberts mewn ystafell ddosbarth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glenys Roberts yn ofni na fyddai modd i'r ysgol barhau heb sicrwydd yr arian grant

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Iau dywedodd Glenys Roberts, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Llundain y byddai hi'n "ddiwedd ar yr ysgol" heb y cyllid.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi dweud "bod yr arian ar gael ond bod nhw eisiau ail bwrpasu'r arian".

"Mae hynny'n golygu bod yr arian yn mynd i gael ei roi i wahanol brosiectau, gwahanol bethau sy'n digwydd yn Llundain, nid dim ond yr ysgol," meddai.

"Mae'r ysgol yn gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas Gymraeg Llundain."

Dywedodd fod yr arian wedi ei sicrhau "tan ddiwedd mis Mawrth 2026, sy'n anodd iawn i ni fel ysgol achos mae yng nghanol blwyddyn academaidd".

'Cyfnod pryderus'

Ychwanegodd bod rhieni yn talu £4,300 y flwyddyn a bod capeli Cymraeg Llundain yn rhoi cyfraniadau.

"Mae hyn yn gyfnod pryderus i'r staff, i'r rhieni a'r plant," meddai Ms Roberts.

"Mae'r criw o rieni sydd gennym ni ar hyn o bryd ac yn y gorffennol yn ysbrydoliaeth ac maen nhw'n benderfynol o gael parhad i'r ysgol hon.

"Heb yr arian yma, mi fydd hi'n ddiwedd ar yr ysgol."

Llun o Mims Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mims Davies bod angen i lywodraethau Cymru a'r DU "ddeffro"

Dywedodd llefarydd Ceidwadwyr y DU dros Gymru, Mims Davies: "Dyma enghraifft arall o'r ddwy lywodraeth Lafur yn gadael Cymru i lawr.

"Mae'n erchyll bod Llafur yn parhau i saethu cyfleoedd i lawr yng Nghymru a thu hwnt gyda'u polisïau ar ysgolion annibynnol ac yn awr yn tynnu'r cyllid hwn yn ôl."

Ychwanegodd: "Er lles ein pobl ifanc, dwi'n erfyn ar y llywodraethau i ddeffro ac i beidio â methu ein pobl ifanc."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.