Marwolaeth Aberteifi: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

Corrina BakerFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Corinna Baker ei chanfod yn farw yn iard gychod Pwll y Rhwyd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth menyw 21 oed yn Aberteifi.

Cafodd Corinna Baker ei chanfod yn farw yn iard gychod Pwll y Rhwyd yn Aberteifi tua 12:35 ddydd Sadwrn 15 Tachwedd.

Cafodd dyn 29 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud ei fod wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'w hymchwiliad barhau.

Mae'r heddlu'n parhau i fod yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal yr iard gychod, neu a welodd unrhyw un yno, ers 21:00 nos Iau 13 Tachwedd.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Vicky Oliver: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Corinna yn ystod y cyfnod ofnadwy yma, ac mae ein swyddogion arbenigol yn parhau i'w cefnogi wrth i'n hymholiadau barhau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig