Y cyn-ddyfarnwr rygbi Nigel Owens yn ennill gwobr ffermio yn Llundain
- Ffynhonnell y llun, Farmers Weekly
Disgrifiad o’r llun, Rachel a Rheinallt Harries o Sir Gaerfyrddin - enillwyr categori Ffermwr Llaeth Gorau
1 o 5
- Cyhoeddwyd
Roedd y cyn-ddyfarnwr rygbi Nigel Owens ymhlith yr enillwyr o Gymru mewn noson i wobrwyo ffermwyr Prydain yn Llundain.
Cafodd Owens ei enwi yn Bencampwr Ffermio'r Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol Farmers Weekly yn y Grosvenor House Hotel, Park Lane nos Iau.
Ers ymddeol o rygbi yn 2020, mae Owens wedi bod yn canolbwyntio mwy ar ei fferm ym Mynyddcerrig yn Sir Gaerfyrddin.
"Mae hyn yn gymaint o fraint," meddai Owens ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'r seremoni.
"Ond dwi'n derbyn y wobr ar ran yr holl ffermwyr sy'n gweithio'n galed i fwydo'r genedl. Diolch o galon."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Farmers Weekly fod Owens wedi ei gydnabod am ymgyrchu ar faterion gwledig a phwysigrwydd iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol.
"P’un a yw’n degwch i ffermwyr, yr angen i weithredu ar sicrwydd bwyd, y frwydr yn erbyn TB mewn gwartheg neu’r effaith gadarnhaol a gaiff ffermio ar yr amgylchedd, mae’n eiriolwr penderfynol ac yn hynod haeddiannol o’r wobr hon," meddai Tom Bradshaw, llywydd undeb yr NFU.

Dylan Jones a Nigel Owens yn dathlu eu llwyddiant gyda'i gilydd ar y llwyfan
Roedd yna Gymry eraill yn fuddugol yn y gwobrau hefyd, gan gynnwys Dylan Jones o fferm Castellior ar Ynys Môn a enillodd y wobr Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn.
Rheinallt a Rachel Harries o fferm Llwynmendy Uchaf yn Sir Gâr oedd enillwyr gwobr Ffermwr Llaeth y Flwyddyn.
Enillodd Logan Williams o fferm Tirmynydd yn Sir Gâr y wobr am Fyfyriwr Amaeth y Flwyddyn, tra bod Jonathan Crimes, o Cara Wales, Dyfed, hefyd wedi wobrwyo yn y categori Cynghorydd ar Dda Byw (Livestock Adviser).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023