Gerwyn Price allan o Bencampwriaeth Dartiau'r Byd

Gerwyn PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gerwyn Price oedd y Cymro olaf ar ôl yn y gystadleuaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Gerwyn Price allan o Bencampwriaeth Dartiau'r Byd ar ôl colli yn erbyn Chris Dobey yn rownd yr wyth olaf Ddydd Calan.

5-3 oedd hi mewn setiau i'r gŵr o Loegr yn yr Alexandra Palace yn Llundain brynhawn Mercher.

Price enillodd y ddwy set gyntaf, ac roedd yn edrych yn gyfforddus.

Ond fel oedd wedi digwydd yng ngemau blaenorol Price yn y bencampwriaeth, fe gymrodd ei droed oddi ar y sbardun.

Enillodd Dobey y pedair set nesaf i fynd 4-2 ar y blaen, ac fe gafodd sawl cyfle i ennill y seithfed set a sicrhau'r fuddugoliaeth.

Price enillodd y set honno yn y pendraw, ond fe sicrhaodd Dobey y fuddugoliaeth yn yr wythfed set.

Gerwyn Price oedd yr unig Gymro ar ôl yn y gystadleuaeth, wedi i Jonny Clayton a Robert Owen fynd allan yn y bedwaredd rownd.

Pynciau cysylltiedig