Price yn trechu Clayton ym Mhencampwriaeth dartiau'r byd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Gerwyn Price drwodd i rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth dartiau'r byd.
Roedd Gerwyn Price yn wynebu ei gyd-Gymro, Jonny Clayton, yn y bedwaredd rownd yn Alexandra Palace nos Sul.
Mae'r ddau wedi chwarae gyda'i gilydd ar sawl achlysur ac wedi ennill Cwpan Dartiau'r Byd ddwywaith.
Mewn gêm agos, fe enillodd Price o 4-2.
Hefyd brynhawn Sul fe enillodd y Cymro Robert Owen yn erbyn Ricky Evans o 4-2 i sicrhau ei le yn y bedwaredd rownd.
Price ag Owen yw'r unig Gymry ar ôl yn y gystadleuaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2023