Eisteddfod yr Urdd 2027 i'w chynnal yn Nhŷ Tredegar

2027 fydd ymweliad cyntaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd â Chasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi y bydd Eisteddfod yr Urdd Casnewydd 2027 yn cael ei chynnal yn Nhŷ Tredegar sef cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004.
Dyw Eisteddfod yr Urdd erioed wedi cael ei chynnal yng Nghasnewydd o'r blaen.
Wrth gyhoeddi yn 2024 y byddai Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ymweld â Chasnewydd dywedodd Cyngor Dinas Casnewydd fod cynnal yr ŵyl yn y ddinas yn unol ag amcanion yr awdurdod i gynyddu nifer y plant sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Wrth gyhoeddi union leoliad Eisteddfod 2027, dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau: "Rwyf mor falch o weld cefnogaeth Cyngor Sir Casnewydd, a chymuned Rhanbarth Gwent gyfan i gynnal yr Eisteddfod yn 2027.
"Mae Tŷ Tredegar i weld fel safle delfrydol i ni fel trefnwyr.
"Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw'r ffaith ei bod hi'n teithio, ac yn gallu ymweld ag ardaloedd sydd erioed wedi cynnal yr ŵyl."
- Cyhoeddwyd12 Medi 2024
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024
"Rydym yn hynod falch bod Tŷ Tredegar wedi'i gadarnhau fel lleoliad ar gyfer ymweliad cyntaf Eisteddfod yr Urdd erioed â Chasnewydd yn 2027," meddai'r Cynghorydd Stowell-Corten, aelod cabinet dros gyfathrebu a diwylliant, Cyngor Dinas Casnewydd.
"Mae cynnal mwy o ddigwyddiadau mawr a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein cynnig diwylliannol ill dau yn rhan o'n strategaeth ddiwylliannol hirdymor ar gyfer y ddinas.
"Bydd Eisteddfod yr Urdd, un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Cymru, yn ein helpu i gyflawni'r ddau nod hynny."