Cynnig ffurfiol i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2028 yng Ngwynedd

Arwydd croeso
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd union leoliad Eisteddfod 2028 yn cael ei gadarnhau yn yr haf

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno'n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2028.

Dyma fyddai'r pedwerydd tro i brifwyl yr Urdd gael ei chynnal yn y sir - gan ddilyn ymweliadau â Llŷn yn 1998, Glynllifon ger Bangor yn 2012, a'r Bala yn 2014.

Mae'r trafodaethau ynglŷn â lleoliadau posib yn parhau, gyda disgwyl cadarnhad swyddogol mewn cyfarfod cyhoeddus dros yr haf.

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys eu bod yn edrych ymlaen at "drafod yr holl bosibiliadau gyda'r mudiad dros y misoedd nesaf er mwyn gwneud yn siŵr bydd yr ŵyl yn 2028 yr orau eto".

Casnewydd fydd yn cynnal Eisteddfod yr Urdd yn 2027 a hynny am y tro cyntaf erioed.

Daeth cadarnhad ddydd Mercher mai Tŷ Tredegar - lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004 - fydd cartref yr ŵyl y flwyddyn nesaf.

Llio MaddocksFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n bwysig fod yr Eisteddfod yn ymweld â'i chadarnleoedd yn ogystal â rhoi hwb i gymunedau di-Gymraeg, meddai Llio Maddocks

Dywedodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr y celfyddydau Urdd Gobaith Cymru: "Rydym wrth ein bodd o glywed bod aelodau cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno'n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd 2028 ac yn hynod ddiolchgar i'r awdurdod lleol am ddangos cymaint o gefnogaeth i'r mudiad a'r ŵyl ieuenctid fel ei gilydd.

"Rydym wrthi'n trafod lleoliadau posib ar gyfer cynnal yr Eisteddfod.

"Edrychwn ymlaen at gadarnhau union safle'r ŵyl mewn cyfarfod cyhoeddus dros yr haf ac i ddechrau trefnu gyda gwirfoddolwyr lleol."

Ychwanegodd Ms Maddocks ei bod "yr un mor bwysig i ni yw ymweld â'n cadarnleoedd a'n ardaloedd gwledig".

"Mae angen gwarchod ein cymunedau Cymraeg yn ogystal â rhoi hwb i'r cymunedau di-Gymraeg," meddai.

'Hanes hir a llewyrchus o gydweithio â'r Urdd'

Dywedodd Nia Jeffreys ei bod hi'n "fraint gallu cadarnhau fod Cyngor Gwynedd yn gwahodd Eisteddfod yr Urdd i'n sir yn 2028".

"Mae gan Wynedd hanes hir a llewyrchus o fod yn cydweithio gyda'r Urdd ac o groesawu ieuenctid o bob rhan o Gymru a thu hwnt yma am yr wythnos liwgar llawn hwyl," meddai.

"Rydan ni'n edrych ymlaen at drafod yr holl bosibiliadau gyda'r mudiad dros y misoedd nesaf er mwyn gwneud yn siŵr bydd yr ŵyl yn 2028 yr orau eto.

"Mae'r Urdd yn cynnig gymaint i blant a phobl ifanc a dwi'n gwybod y bydd selogion yr eisteddfod yn edrych ymlaen yn barod.

"Mae'n bwysig hefyd ein bod yn manteisio ar y cyfle i wneud yn siŵr fod y plant a'r teuluoedd hynny o Wynedd sydd efallai erioed wedi profi bwrlwm Eisteddfod yr Urdd o'r blaen yn cael y cyfle i fynd a chael bod yn rhan o'r digwyddiad cwbl Gymraeg a Chymreig unigryw hwn."