Pedwar yn y llys wedi marwolaeth dyn ger Pontypridd

Liam Woolford, 22 oedFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Liam Woolford yn y digwyddiad ar 23 Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd wedi'u cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 22 oed ger Pontypridd.

Bu farw Liam Woolford o'r Porth, Rhondda Cynon Taf, ar ôl digwyddiad ar Poets Close, Rhydyfelin, yn oriau mân 23 Medi.

Mae Jake Staples, 24 o'r Porth, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth, ceisio llofruddio, anafu gyda bwriad, cynllwynio i anafu rhywun a chael arf yn ei feddiant.

Mae Abeyshake Karunanithy, 22 o Don-teg, ac Ethan Ross, 23 o Rydyfelin, wedi'u cyhuddo o geisio llofruddio, cynllwynio i anafu rhywun a chael arf yn ei feddiant.

Mae Jesse Wandera, 30 o Rydyfelin, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i anafu rhywun.

Rhydyfelin

Fe wnaeth y pedwar ymddangos ar wahân trwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Casnewydd, gan gadarnhau eu henwau.

Mae disgwyl i'r achos yn eu herbyn ddechrau ym mis Mawrth 2026, ac mae'r pedwar wedi cael eu cadw yn y ddalfa tan eu gwrandawiad nesaf ar 31 Hydref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.