Bachgen, 13, wedi boddi mewn afon yn ddamweiniol ar ôl mynd yn sownd

Bu farw Kane Edwards wedi iddo fynd yn sownd ger coeden ar wely Afon Tawe
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi dod i'r casgliad mai damwain oedd marwolaeth bachgen 13 oed a foddodd yn Afon Tawe.
Roedd Kane Edwards yn 13 oed pan aeth i nofio yn yr afon gyda ffrind ym mis Mai 2022.
Clywodd y cwest yn Abertawe fod ei droed wedi mynd yn sownd mewn coeden ar wely'r afon ac fe dreuliodd fwy nag awr o dan y dŵr.
Ni lwyddodd y gwasanaethau brys i'w adfywio.
Ar ddiwedd ail ddiwrnod y cwest daeth y crwner Edward Ramsay i'r casgliad bod marwolaeth Kane yn ddamweiniol.
Dywedodd "ei fod wedi boddi wedi iddo gael ei ddal mewn gweddillion ar wely'r afon a bod y dŵr yn llifo'n gyflym".
'Oedi heb gael effaith'
Ddydd Llun clywodd y cwest yn Abertawe bod Hannah Stanley o dîm galwadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dweud mewn datganiad nad oedd hi'n hawdd adnabod union leoliad y digwyddiad ac nad oedd y cysylltiad drwy 'what3words' wedi gweithio.
Ond wrth grynhoi dywedodd y crwner, er bod yna "rhywfaint o oedi" cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd, ei fod yn "hollol fodlon" nad oedd hynny wedi cael unrhyw effaith ar achos marwolaeth Kane Edwards.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
Ychwanegodd Mr Ramsay: "Yn drasig, mae'n debyg bod Kane wedi boddi ar yr adeg y gwelwyd ef ddiwethaf gan ei ffrind.
"Pan aeth Kane i nofio, nid oedd yn ymwybodol o gwbl o'r peryglon oddi tano."
Dywedodd hefyd ei fod am dderbyn rhagor o wybodaeth gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru cyn penderfynu a fyddai'n cyhoeddi adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol ai peidio.
Mae aelodau o deulu Kane wedi galw am osod bwi achub yn y safle lle bu farw.

Clywodd y cwest nad oedd unrhyw ddigwyddiadau wedi bod ar y safle cyn marwolaeth Kane
Ddydd Mawrth dywedodd Rheolwr Diogelwch Dŵr Cyngor Abertawe, Andrew Suter, wrth y cwest nad oedd unrhyw ddigwyddiadau wedi bod ar y safle cyn marwolaeth Kane.
Ers i Kane farw, mae'r ardal wedi cael ei hasesu o ran risg ac mae nifer o arwyddion wedi'u gosod ar hyd y llwybr wrth yr afon, yn rhybuddio am beryglon mynd i mewn i'r dŵr, meddai.
Ychwanegodd fod bwi achub hefyd wedi'i osod ar blatfform pysgota ymhellach i fyny'r afon ac y bydd llwyni draen yn cael eu gosod ger y morgloddiau er mwyn atal mynediad at y pyllau dŵr yno.
Ond pan bwysodd y teulu arno i ailystyried lleoli bwi achub ar y safle, dywedodd Mr Suter y byddai'n asesu'r safle eto.
Ar ddiwedd y cwest dywedodd teulu Kane eu bod yn derbyn bod Kane wedi marw mewn "damwain drasig".
Fe wnaethon nhw hefyd ddiolch i aelodau'r gwasanaethau brys a geisiodd ei helpu.
Dywedon nhw eu "bod wedi cael cysur o'r ffaith bod y gwasanaethau lleol wedi gwneud newidiadau lle bo angen".
Cais i 'ailasesu y risg eto'
Wedi diwedd y cwest dywedodd Gethin Edwards, ewythr Kane: "Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i'r teulu ac mae wedi bod yn rhai blynyddoedd cyn cyrraedd y pwynt hwn.
"Rydym wedi derbyn adborth gan y gwasanaethau brys a phawb sydd wedi bod yn rhan ohono.
"Cafodd rhai cwestiynau anodd eu gofyn yn y cwest ond ry'n yn cymryd cysur yn y ffaith y bydd camgymeriadau yn cael eu cywiro... ac y bydd newidiadau i hyfforddiant.
"Mae'r cyngor wedi asesu'r ardal ac wedi cyflwyno mesurau ond yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg heddiw yw ein bod yn teimlo bod y bwi agosaf yn daith gerdded 20 munud o lle digwyddodd y ddamwain ac roedd yna bump neu chwech o blant yn nofio yn yr union fan nos Lun.
"Rwy'n credu bod y cyngor yn mynd i ailasesu y risg eto a'n cais o roi bwi lle mae angen un."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.