Tân mawr mewn ysgol wedi ei gynnau'n fwriadol

Yr ysgol ar ol difrod y tanFfynhonnell y llun, Liam Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd criwiau Tân ac Achub pum awr yn ceisio diffodd y tân

  • Cyhoeddwyd

Cafodd tân sydd wedi difrodi hen ysgol yn Abertawe ei gynnau'n fwriadol, yn ôl swyddogion tân.

Fe dreuliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bum awr ar y safle ar ôl cael eu galw i hen Ysgol Gorseinon ddydd Gwener.

Roedd pedwar criw yn ceisio diffodd y tân pan oedd ar ei anterth.

Cafodd busnesau a phobl leol gyngor i aros y tu mewn ac i gau ffenestri a drysau.

Pynciau cysylltiedig