Bywyd lliwgar yr artist o Ffestiniog, Gareth Parry

garethFfynhonnell y llun, Gareth Parry
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Parry gyda un o'i ddarluniau

  • Cyhoeddwyd

"Bendigedig, gyda phobl bendigedig" - dyna sut mae'r artist Gareth Parry yn disgrifio ardal Manod, Blaenau Ffestiniog, ble cafodd ei eni a'i fagu.

Ond wrth siarad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru bu hefyd yn egluro pam ei fod wedi gwrthryfela yn ei arddegau, ac am ddylanwad dwfn yr ardal a'i fagwraeth ar ei yrfa a'i fywyd.

Plentyndod yn Ffestiniog

Disgrifiai Gareth ei blentyndod cynnar ym Manod fel "paradwys", gydag aelodau o'r teulu yn byw'n agos a'r Gymraeg i'w chlywed ym mhobman.

Ond er iddo ystyried ei amser gyda'i nain a'i daid yn enwedig fel un o gyfnodau hapusaf ei fywyd, doedd bywyd ddim wastad yn rhwydd.

"Ges i fy magu mewn cartref lle'r oedd fy nhad yn rheoli," meddai. "Fo oedd y Victorian olaf i ddweud y gwir!

"Roedd fy mam yn licio lot fawr o hwyl, a doedd fy nhad ddim – roedd o'n critical iawn o bob peth, yn credu mewn cosbi a doedd o ddim yn magu hyder mewn neb.

"Doedden ni ddim yn gallu trafod a thrin pynciau – fo oedd yn dweud a dyna ni. Fel o'n i'n mynd yn hŷn, roedd o'n mynd yn fwy llym... trio dewis fy ffrindiau, ddim yn cael pobl i'r tŷ, ddim yn cael gwisgo fel hogiau eraill.

"Ond doedd o ddim yn fy rheoli i, roedd o'n fy ngwneud i'n fwy a fwy gwyllt."

Fe wnaeth perthynas y ddau wella yn hwyrach, ac mae Gareth yn falch fod y ddau wedi dod yn agos cyn bu ei dad farw mewn cartref gofal yn ystod pandemig Covid-19.

Gareth ParryFfynhonnell y llun, Gareth Parry
Disgrifiad o’r llun,

Enghraifft o waith tirlun Gareth

Llunio'i lwybr ei hun

Er bod ganddo atgofion cynnes o rai athrawon, wnaeth Gareth ddim mwynhau ei ddyddiau yn yr ysgol.

Tra'n ddisgybl yn Ysgol Sir Ffestiniog fe redodd i ffwrdd i Lundain gyda'i ffrind, gan obeithio "gwneud eu ffortiwn" yno. Ond gydag arian yn brin a hwythau'n rhy ifanc i weithio, roedd rhaid dychwelyd nôl i Ffestiniog.

Er iddo ddisgrifio ei ysgol uwchradd fel "Alcatraz", fe wnaeth barhau â'i addysg gan fynd i Brifysgol ym Manceinion. Ac yno, daeth i gysylltiad gyda bywyd nos a chyffuriau am y tro cyntaf.

"Ddos i ar draws criw o hogia yn Stockport ble o'n i'n aros, o gefndir caled a thlawd, ond yn llawn hwyl a sbri. Un o'r pethau oedd nhw'n ei wneud oedd eu bod nhw'n torri mewn i siopau chemist ac yn dwyn y tabledi a'u cynnwys oedd amphetamine.

"Felly, beth oeddent nhw'n ei wneud wedyn oedd mynd i'r Twisted Wheel, yn cymryd y tabledi i alluogi nhw i ddawnsio trwy'r nos, a 'neud chi deimlo yn iawn.

"'Nes i ddechrau cymryd yr amphetamines efo nhw, ac mae'n rhaid i mi ddweud, ei fwynhau i gyd. Cael dawnsio o 11 y nos tan wyth o gloch yn y bore, i fiwsig bendigedig ac anghofio pawb a phopeth."

Gareth ParryFfynhonnell y llun, Gareth Parry

Colli ffrindiau i alcohol a heroin

Fe wnaeth Gareth smocio canabis a defnyddio cyffur LSD yn y coleg, ac fe eglurodd wrth Beti pam ei fod wedi penderfynu rhoi'r gorau i'r cyffuriau yma yn y pen draw.

"Y drwg efo fo ydi, mae'r cyffuriau yma i gyd yn agor rhyw ddrws yn y pen.

"Ac weithiau - dwi ddim yn gwybod beth ydi'r ystadegau - gwnaiff person ffeindio bod y drysau ddim yn cau yn iawn yn eu hola, ac mae'n gadael ryw fath o baranoia mewn a phethau felly... sgitsoffrenia ar ei waethaf.

"I fi mae alcohol yn un o'r cyffuriau gwaethaf sydd ar gael," meddai. "Dwi 'di gweld mwy o lanast oherwydd alcohol na dim byd arall, heblaw am heroin."

Dywed Gareth i bedwar o'i ffrindiau coleg farw yn eu 30au neu 40au cynnar, o sgil effaith alcohol neu heroin. Fe wnaeth Gareth ei hun roi'r gorau i yfed yn 40 oed.

garethFfynhonnell y llun, Gareth Parry
Disgrifiad o’r llun,

Un o luniau Gareth o'r arfordir

Dychwelyd adref a gweithio yn y chwarel

Felly pa ddylanwad gafodd plentyndod Gareth ac ardal Blaenau Ffestiniog ar ei waith?

"Pan o'n i'n blentyn yn Blaenau ges i erioed baent neu phensil lliw. Yr unig beth oedd gen i oedd beiro ddu neu las, felly roedd popeth mewn amlinelliad gen i. Ond yn naturiol, y mwya' o'n i'n gwneud hyn y gora' o'n i'n mynd," meddai Gareth.

"Yn y coleg oedden nhw'n canolbwyntio ar life drawing ac o'n i'n mwynhau hynny ac yn reit dda am wneud."

Gareth parryFfynhonnell y llun, Gareth Parry
Disgrifiad o’r llun,

Gweithdy Gareth

Gadawodd Gareth y coleg ar ôl blwyddyn a dychwelyd i Ffestiniog. Wedi cyfnod yn symud o dŷ i dŷ fe symudodd nôl i'r cartref teuluol, a chael swydd yn Chwarel Maenofferen.

"O'n i isio mynd i'r chwarel erioed, ac o'n i isio rhannu profiadau fy nheulu oedd wedi gweithio yno. Mae'n cymryd blynyddoedd i fod yn chwarelwr go iawn - o'n i ddim byd ond labrwr yn y felin ac yn gweithio ar y llif mawr, a hefyd yn gweithio dan ddaear.

"Roedd lot o'r bobl yno yn hŷn na fi, a'n bobl alluog iawn oedd ddim 'di cael unrhyw gyfleoedd yn eu bywydau. Fel fy ewythr; yn y chwarel fel hogyn, yna pum mlynedd o ryfel, a nôl i'r chwarel nes iddo ymddeol."

Tra'n gweithio yn y chwarel byddai Gareth yn darlunio ei gyd-chwarelwyr a'u dangos iddyn nhw.

garethFfynhonnell y llun, Gareth Parry
Disgrifiad o’r llun,

Gareth wrth un o'i luniau sy'n portreadu chwarelwyr Ffestiniog

Daeth Gareth i arbenigo mewn paentio bywyd gwyllt, a chafodd ei waith ei ddangos yng nghylchgrawn Country Life.

"O'n i'n tynnu lluniau cŵn a chathod ac ati. Ond 'nes i benderfynu mod i ddim am wneud hyn a bo' fi isio peintio rhywbeth o'n i'n ei fwynhau."

Daeth i gyswllt â'r artist natur enwog, Charles Tunnicliffe, ac roedd yn cwrdd â Kyffin Williams yn achlysurol tua diwedd oes yr artist o Fôn.

"Nes i ddechrau paentio'r tirlun a rhai pobl. 'Nes i ddysgu sut i dynnu llun rhywbeth yn y tirlun yn gyflym, heb lol. Achos rhyw awr a hanner sydd gennych cyn i'r golau newid.

"Dyna sut dwi'n paentio hyd heddiw, yn gyflym gyda phob strôc yn ymateb i'r strôc cynt."

Ar hyn o bryd mae Gareth yn gweithio gyda Thackeray Gallery yn Kensington, Mimosa yn Llundain, Ffin y Parc yn Llandudno, Galeri Wykeham ac Oriel y Bont.

gareth parryFfynhonnell y llun, Gareth Parry
Disgrifiad o’r llun,

Llun arall gan Gareth yn ei arddull nodweddiadol