Euro 2025: Diwedd y daith, ond beth nesaf i Gymru?

Angharad James yn siarad gyda'i chyd-chwaraewyr cyn y gên yn erbyn Lloegr yn Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Angharad James yn arwain trwy esiampl yn ystod Euro 2025

  • Cyhoeddwyd

Wel mae'r antur fawr ar ben i Gymru yn Euro 2025.

Doedd 'na ddim stori dylwyth teg i fod ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi yn y grŵp anoddaf posibl gyda Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd - ac ar ôl colli'r tair gêm yn drwm maen nhw ar eu ffordd adref.

Ond does 'na ddim cywilydd yn hynny. Doedd neb yn disgwyl iddyn nhw orffen yn y ddau safle uchaf a chyrraedd rownd yr wyth olaf.

Y gwir amdani yw bod cyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf erioed ynddo'i hun wedi bod yn dipyn o gamp.

Mae'r garfan yma wedi torri tir newydd, ac maen nhw'n saff o'u lle yn y llyfrau hanes am byth.

"Da ni wedi bod ar daith, ac mae'r daith wedi bod yn un emosiynol iawn," meddai'r capten Angharad James.

"Dwi mor browd o'r merched. Mae gennym ni lot i'w weithio arno, ond ni mor falch o ba mor bell 'da ni wedi dod fel grŵp."

Cadw chwaraewyr

Felly beth sydd angen i Gymru ei wneud nesaf i wneud yn siŵr fod y llwyddiant diweddar yn parhau, a bod y tîm yn cyrraedd y cystadlaethau mawr yn rheolaidd?

Dim ond dwy flynedd sydd 'na tan y bydd Cwpan y Byd ym Mrasil.

Yn ôl cyn-gapten Cymru Kath Morgan, mae hi'n hollbwysig na fydd chwaraewyr yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol cyn yr ymgyrch ragbrofol yna - gan gynnwys Jess Fishlock - er ei bod hi'n 38 oed bellach.

Ar ôl ennill 165 o gapiau a sgorio 48 gôl, mae Fishlock yn dweud y bydd hi'n ystyried ei dyfodol yn ofalus dros yr wythnosau nesaf.

Jess Fishlock yn sgorio'n erbyn Ffrainc yn Euro 2025 yn St GallenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock yn sgorio'n erbyn Ffrainc yn Euro 2025

"Mae hi wedi gweithio mor galed i gyrraedd y pwynt yma, nawr ei bod hi wedi cael blas ar hynny mae gen i deimlad 'neith Jess gario ymlaen," meddai Kath.

"Mae Cwpan y Byd yn agos, a mi fyse hi'n siom 'sa 'ni'n colli Jess a cholli'r momentwm sydd wedi cael ei greu.

"Sa i'n credu y gwneith hi roi'r ffidil yn to jysd eto."

Ond tydi cyn-ymosodwr Cymru Gwennan Harries ddim yn siŵr a welwn ni Fishlock yn gwisgo'r crys coch eto.

"Mae'n rhaid i ni gychwyn paratoi am fywyd hebddi hi," meddai.

"Mae 20 mlynedd o chwarae pêl-droed rhyngwladol yn gyfnod hir iawn, yn enwedig pan mae hi'n teithio draw o ben draw'r byd yn o Seattle.

"Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gennym ni'r chwaraewyr i gamu lan i gymryd ei lle hi.

'Angen chwarae'n fwy rheolaidd'

Un peth sy'n sicr angen digwydd, yn ôl Kath Morgan, yw bod y chwaraewyr yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n chwarae'n rheolaidd i'w clybiau.

Tydi'r golwyr Olivia Clark a Safia Middleton-Patel ddim yn gwneud hynny ar y funud, tra bod yr amddiffynnwr Gemma Evans ar y fainc yn aml i'w chlwb Lerpwl.

Gemma Evans ar ôl i Gymru golli 3-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tydi Gemma Evans heb fod yn chwarae'n gyson i'w chlwb Lerpwl

"Mae'n rhaid i'r merched chwarae ar y lefel uchaf yn rheolaidd - unai yn Uwch Gynghrair Lloegr neu yn y Bencampwriaeth," ychwanegodd Kath.

"Ti'n edrych ar bob tîm arall yn yr Euros ac mae'r chwaraewyr i gyd yn chwarae'n wythnosol."

Mae Gwennan Harries yn cytuno: "Os dwyt ti ddim yn chwarae'n gyson - cer i ffeindio clwb arall.

"Mi fydd hynny yn eu helpu i ddatblygu fel chwaraewyr.

"Mae'r chwaraewyr hefyd angen cael eu hunain nôl fyny i Adran A Cynghrair y Cenhedloedd fel ein bod nôl ar y lefel uchaf, i ni allu gwthio ein hunain yn erbyn y gwledydd mawr."

Y rheolwr

A beth nesaf i Rhian Wilkinson?

I fod yn glir yn y fan hyn - does 'na ddim awgrym o gwbl y bydd hi'n gadael ei swydd.

Ond mae'n rhaid cofio fod ganddi CV disglair - gan ennill prif adran Yr Unol Daleithiau gyda Portland Thorns cyn arwain Cymru i'r Euros.

Rhian Wilkinson yn ystod y golled o 6-1 yn erbyn Lloegr yn Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Wilkinson yn ystod Euro 2025

Doedd neb yn disgwyl i Gemma Grainger adael yn 2023, ond mi gafodd hi ei themptio i dderbyn swydd Norwy ar ôl bron ag arwain Cymru i Gwpan y Byd.

Pwy a wyr - ella y caiff Wilkinson ei thargedu gan wlad arall, neu gan glwb dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Ond mae ei chytundeb yn parhau tan ar ôl Cwpan y Byd 2027, ac mi fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio ei gweld hi'n creu mwy o hanes ac yn arwain y tîm i'r rowndiau terfynol ym Mrasil.