Euro 2025 'am roi hyder' i genhedlaeth o ferched chwarae pêl-droed

Begw Elain yw Is-gadeirydd Cyngor Ieuenctid Cymdeithas Bêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Ymgyrch merched Cymru yn Euro 2025 yr haf hwn yw'r man "dechrau", ac mae'r bencampwriaeth am roi hyder i genhedlaeth newydd o ferched chwarae'r gamp.
Dyna farn Begw Elain, Is-gadeirydd Cyngor Ieuenctid Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sydd hefyd yn gobeithio gweld mwy o fuddsoddiad yng ngêm y merched wedi'r Euros.
Lloegr oedd yn fuddugol ym mhencampwriaeth yr Euros unwaith eto eleni, a hynny ar ôl ennill yn erbyn Sbaen ar giciau o'r smotyn yn y rownd derfynol nos Sul.
Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru gyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol, ac er bod Cymru wedi gadael y gystadleuaeth wedi'r grwpiau, mae gwaddol y bencampwriaeth yn amlwg.
- Cyhoeddwyd30 Awst 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
A hithau ond yn 20 oed, mae Begw Elain o Ddyffryn Nantlle yn ohebydd chwaraeon ac wrth ei bodd yn creu cynnwys digidol.
Bu'n gweithio gyda Chlwb Pêl-droed Nantlle Vale ac erbyn hyn mae'n gweithio i dîm marchnata Clwb Pêl-droed Caernarfon.
Mae o'r farn bod angen buddsoddi mwy o arian mewn clybiau llawr gwlad ac ysgolion er mwyn hybu'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.
"Dwi'n gobeithio bydd shift mawr ac y bydd pobl yn dechrau buddsoddi a gweld gwerth mewn pêl-droed merched," meddai.

Mae Begw yn creu cynnwys digidol i Glwb Pêl-droed Caernarfon
Aeth yn ei blaen i ddweud mai'r hyn sy'n "anodd yng Nghymru ydi fod safon pêl-droed merched o Gaerdydd i ben draw Llŷn yn hollol wahanol a dwi'n meddwl fod angen cael yr un cydbwysedd ar draws Cymru".
"Os 'da chi ddim yn buddsoddi mewn ysgolion, 'da chi am golli cenhedlaeth o chwaraewyr.
"Dwi'n gobeithio bydd clybiau yn fwy parod i gefnogi a buddsoddi yng ngêm y merched achos bo' nhw'n gweld ei werth erbyn hyn."

Begw yn y Swistir gyda'r llysgenhadon eraill
Bu Begw yn ddigon ffodus i fynd allan i'r Swistir gyda grŵp o lysgenhadon o dan arweiniad Ashoka, CBDC a'r Urdd.
"Roedd y tîm yn llawn balchder, mae lle 'da ni wedi cyrraedd o'i gymharu â 32 mlynedd yn ôl... 'Da ni angen bod yn falch iawn o le ydan ni," meddai wrth gofio'r rhwystrau a wynebodd pêl-droed merched yn y gorffennol.
'Dyma'r dechrau'
Dywedodd mai "dyma'r dechrau" a bod y bencampwriaeth am roi'r "hyder i ferched chwarae pêl-droed".
Fel un na chafodd gyfle yn yr ysgol i chwarae pêl-droed, mae'n obeithiol y bydd "shift mawr am ddigwydd" ac y "bydd pêl-droed merched yn gallu tyfu a datblygu".
"Mae'r twrnament wedi bod yn binacl mawr o ran llinell amser pêl-droed yng Nghymru," ychwanegodd.

Dywed Gwennan Harries: "Fi'n hapus eu bod yn cael y llwyfan yna o'r diwedd"
Wrth ymateb i berfformiad Cymru yn y bencampwriaeth dywedodd y sylwebydd a'r cyn-chwaraewyr Gwennan Harries ei bod "wedi synnu faint o gefnogwyr sydd wedi bod mas yn y Swistir".
"O ran y pêl-droed fi'n credu mae'n parhau i ddatblygu bob twrnament, gyda faint o gefnogaeth sydd wedyn yn cael ei rhoi yn ôl i'r gêm yn y gwledydd gwahanol.
"Fi'n credu bob twrnament bydd e'n parhau i wella, achos mae'r chwaraewyr yn cael mwy o gyfleoedd gan eu bod nhw nawr yn troi'n broffesiynol yn y gwledydd eraill – ac mae hi wedi bod yn bleser i wylio."
'Llwyfan o'r diwedd'
Dywedodd ei fod "mor bwysig bod y modelau rôl yna yn amlwg iawn, nid jyst yng Nghymru ond ar draws Ewrop a'r byd i gyd".
"Maen nhw yn fodelau rôl sydd yn amlwg yn dalentog iawn ar y cae, ond maen nhw yn brwydro am bethau hollbwysig ac yn fodlon siarad lan hefyd am bethau sydd yn bwysig oddi ar y cae.
"Maen nhw yn fodelau rôl mor bwysig, a fi'n hapus eu bod yn cael y llwyfan yna o'r diwedd."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod nifer y chwaraewyr wedi tyfu "yn aruthrol o 52% yn ystod y pedair blynedd diwethaf".
Dywedon nhw fod "llwybr datblygu newydd wedi'i greu gyda lansiad yr Academi Genedlaethol i Ferched.
Nododd y gymdeithas fod anghydbwysedd o ran y cystadlu mewn rhai cynghreiriau oherwydd y poblogrwydd cynyddol, ac o ganlyniad maen nhw wedi "creu llwybr strwythuredig, tryloyw i chwaraewyr benywaidd".