'Ymddygiad gwael' yn parhau'n broblem o fewn Cyngor Wrecsam

Dyma'r eildro o fewn dwy flynedd i Archwilio Cymru edrych ar ymddygiad cynghorwyr a swyddogion Cyngor Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae achosion o "ymddygiad gwael" a "pherthnasoedd sydd wedi eu torri" yn parhau'n broblem o fewn Cyngor Sir Wrecsam, yn ôl adroddiad gan Archwilio Cymru.
Mae'n nodi fod "anghydfod a drwgdybiaeth" rhwng rhai o'r cynghorwyr sir a'r swyddogion cyflogedig yn peryglu gallu'r cyngor i wneud penderfyniadau a llywodraethu.
Dywedodd Archwilio Cymru eu bod yn pryderu nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud, a bod angen "newidiadau brys" i osgoi "tanseilio gwaith y cyngor".
Mae Cyngor Wrecsam yn dweud eu bod nhw "wedi ymrwymo i wella'r ffordd y mae cynghorwyr a swyddogion yn cydweithio".
'Digalon gweld cynnydd annigonol'
Dyma'r eildro ers 2023 i gorff rheoleiddio Archwilio Cymru edrych ar ymddygiad cynghorwyr etholedig yn awdurdod lleol Wrecsam.
Roedd yr archwiliad cyntaf - oedd yn canolbwyntio ar wasanaeth cynllunio'r cyngor - wedi darganfod bod y berthynas rhwng cynghorwyr etholedig a swyddogion cyflogedig "wedi torri".
Mae'r adroddiad diweddaraf yn dweud: "Er gwaethaf fy argymhellion blaenorol, a datganiadau o fwriadau da gan y cyngor, mae'n ddigalon gweld ei fod wedi gwneud cynnydd annigonol o ran mynd i'r afael â materion llywodraethu hollbwysig."
Fe wnaeth yr ymchwilwyr ganfod tensiynau parhaus rhwng cynghorwyr etholedig a swyddogion cyflogedig.
Nid oedd rhai cynghorwyr yn ymddiried yn y swyddogion na'u cyngor, gan hefyd eu beirniadu mewn cyfarfodydd cyhoeddus neu yn y wasg.
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd20 Mai 2024
- Cyhoeddwyd4 Medi
Mae'r adroddiad diweddaraf yn cynnwys tri argymhelliad pellach i'r cyngor:
Gwella'r berthynas rhwng aelodau a swyddogion;
Gwella gwybodaeth a sgiliau aelodau;
Sicrhau llywodraethu priodol.
'Tanseilio gwaith y cyngor'
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, fod ymddygiad gwael yn ei gwneud hi'n anoddach i'r cyngor fod yn siŵr ei fod yn rhoi gwerth am arian i drigolion Wrecsam.
"Mae cynghorwyr a swyddogion yn dibynnu ar ei gilydd, ac mae perthnasoedd sy'n seiliedig ar barch i'r ddwy ochr yn hanfodol ar gyfer llywodraethu da.
"Y pryderon mwyaf am berfformiad effeithiol y cyngor yw'r perthnasoedd dan straen parhaus a'r diffyg ymddiriedaeth rhwng rhai aelodau ac uwch swyddogion.
"Oni bai ei fod yn cael ei ystyried ar frys ac yn wirioneddol, bydd hyn yn tanseilio gwaith cadarnhaol y cyngor a'i weithlu yn ehangach.
"Mae'n hanfodol bod y cyngor yn cymryd camau uniongyrchol a phenderfynol i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn o lywodraethu da a diwylliant."
Ymateb Cyngor Wrecsam
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeisdref Sirol Wrecsam ei bod nhw "wedi ymrwymo i wella'r ffordd y mae cynghorwyr a swyddogion yn cydweithio.
"Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella cefnogaeth, sgiliau a gwybodaeth cynghorwyr ac i sicrhau llywodraethu da ac ry'n yn teimlo ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd da yn y meysydd hyn yn ddiweddar.
"Byddwn yn parhau i weithio'n galed yn y meysydd hyn ac yn sicrhau ein bod yn ystyried sylwadau ac argymhellion Archwilio Cymru," ychwanegodd llefarydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.