Cymru 'erioed wedi trafod' cael tîm dynion GB yn 2028
- Cyhoeddwyd
Dyw Cymdeithas Bêl-droed Cymru “erioed wedi trafod” y posibilrwydd o gael tîm dynion Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd 2028, yn ôl y prif weithredwr Noel Mooney.
Dywedodd Cymdeithas Olympaidd Prydain yn gynharach yn y mis eu bod eisiau cael tîm pêl-droed dynion ar gyfer gemau Los Angeles - a hynny am y tro cyntaf ers Llundain 2012.
Roedd y garfan honno’n cynnwys pum Cymro, gan gynnwys rheolwr presennol Cymru Craig Bellamy a’r capten Aaron Ramsey.
Ond yn hanesyddol mae Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gwrthwynebu'r syniad o dîm Prydain Fawr, gan deimlo y gallai eu hannibyniaeth yng nghystadlaethau Fifa ac Uefa gael ei beryglu pe baen nhw’n cystadlu fel un tîm yn y Gemau Olympaidd.
“Dydyn ni wedi clywed dim byd yn uniongyrchol am y syniad yma o Team GB, a dydyn ni erioed wedi ei drafod fan hyn,” meddai Mooney wrth adran chwaraeon BBC Cymru.
“Rydyn ni’n genedl bêl-droed. Rydyn ni'n mynd i dwrnameintiau yn rheolaidd bellach.
"Rydyn ni'n disgwyl mynd i dwrnameintiau ac mae ein ffocws yn fawr yma ar Gymru yn chwarae mewn twrnameintiau - dyna ein ffocws.
"Dwi wedi clywed dim byd amdano [Team GB] heblaw’r hyn rydw i wedi’i glywed yn y cyfryngau.
"Dydyn ni ddim wedi trafod hynny ond, os oes trafodaeth, ein safiad i raddau helaeth yw ein bod yn canolbwyntio ar ein tîm cenedlaethol yn chwarae allan yn y byd.”
Gwrthwynebiad i'r syniad
Mae carfan menywod Team GB yn gymwys i chwarae yn y Gemau Olympaidd, ond ni lwyddon nhw i gyrraedd Paris 2024.
Wrth siarad fis yma ar ôl y Gemau Olympaidd dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Olympaidd Prydain, Andy Anson y byddai cael tîm dynion yng ngemau Los Angeles ymhen pedair blynedd yn "wych ar gyfer pêl-droed".
Roedd pum Cymro a 13 o Loegr yn rhan o garfan y dynion a chwaraeodd yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, gyda Joe Allen, Neil Taylor a Ryan Giggs yn ymuno â Bellamy a Ramsey.
Roedd CBDC wedi gwrthwynebu’r syniad pan ddechreuodd y trafodaethau rhai blynyddoedd ynghynt.
Bryd hynny, nid oedd Cymru wedi chwarae mewn twrnament mawr ers Cwpan y Byd 1958, ond maent wedi cymhwyso ar gyfer yr Euros ddwywaith a Chwpan y Byd ers hynny.
- Cyhoeddwyd13 Awst 2024
Pan wnaeth rheolwr Lloegr ar y pryd, Sam Allardyce, godi'r syniad o wneud hynny eto yn 2016, fe wnaeth rheolwr Cymru Chris Coleman wrthwynebu.
Y tro hwnnw, roedd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cyflwyno'r syniad o anfon timau Prydain i'r Gemau Olympaidd, ond dywedodd Fifa y byddai angen cytundeb y cyrff rheoli yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon - oedd yn ei erbyn.
Yn ogystal â’r gwledydd, fe allai'r cynlluniau i gael tîm dynion Team GB yng Ngemau Olympaidd 2028 hefyd wynebu gwrthwynebiad gan glybiau, fyddai efallai ddim yn awyddus i ryddhau eu chwaraewyr yn ystod haf prysur.
Bydd gemau Los Angeles yn cael eu cynnal rhwng 14-30 Gorffennaf, ychydig ddyddiau ar ôl rownd derfynol Euro 2028 yn Wembley ac ychydig wythnosau cyn dechrau'r tymor newydd.