Dynes 'yn byw mewn ofn cyson' ers cwympo gartref

"Mae'r cwymp wedi effeithio ar fy annibyniaeth," medd Christine Thomas
- Cyhoeddwyd
Roedd Christine Thomas o Faesteg yn 63 pan gwympodd a thorri ei phen-glin ac anafu ei harddwrn wrth faglu gartref.
Flwyddyn yn ddiweddarach, mae'n dweud bod ei diffyg hyder yn dal yn gysgod ar ei bywyd.
"Ers i hyn ddigwydd, tydw i ddim yr un person. Cafodd effaith ar fy hyder, ac mae hynny dal gyda fi heddiw," meddai.
"Rwy'n dal yn ofnus i fynd allan o'r tŷ, ac mae'r cwymp wedi effeithio ar fy annibyniaeth."
Yn ôl ystadegau iechyd, mae un o bob tri pherson sydd dros 65 oed yn debygol o gwympo o leiaf unwaith mewn blwyddyn.
Ar ddiwedd wythnos atal cwympiadau, mae elusennau wedi bod yn tynnu sylw at y risgiau mae miloedd o bobl hŷn yng Nghymru yn eu hwynebu bob blwyddyn.

Ar ôl gwneud addasiadau i'w chartref, mae gan Christine ansawdd bywyd llawer gwell erbyn hyn.
Ond mae'n dweud nad ydy hi'n achos unigryw.
"Roedd un o'm ffrindiau'n gorfod cysgu ar y soffa lawr grisiau, oherwydd nad oedd hi'n gallu mynd i fyny'r grisiau – a dyna realiti llawer iawn o bobl hŷn," meddai.
Bellach wedi ymddeol, mae Christine yn gwirfoddoli yn y gymuned ac yn llysgennad i elusen Gofal a Thrwsio Cymru - sy'n gweithio i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu byw'n annibynnol mewn cartref diogel, cynnes a chyfleus.
Dywed hefyd fod Gofal a Thrwsio wedi gofalu amdani a sicrhau bod ei chartref yn ddiogel iddi wella.
"Fe wnaethon nhw asesiad llawn o fy nghartref ac fe wnaethon nhw holi amdanaf, er mwyn deall y sefyllfa'n iawn.
"Y peth gorau oedd cael gwybod pa help sydd ar gael - a sut i ymateb, os ydw i'n cael cwymp eto'n y dyfodol," ychwanegodd.

Dywedodd Christine Thomas fod ganddi ansawdd bywyd llawer gwell, ar ôl i addasiadau gael eu gwneud i'w chartref
Mae ymchwil gan Gofal a Thrwsio Cymru a Phrifysgol Abertawe wedi dangos bod addasiadau syml a rhad – fel rheiliau gafael, goleuadau gwell, neu reiliau grisiau - yn lleihau derbyniadau i'r ysbyty oherwydd cwympiadau o 17%, ymysg pobl dros 60 oed.
"Da ni'n cydweithio'n agos iawn hefo Llywodraeth Cymru ac yn derbyn grantiau sy'n ein galluogi i wneud y mân addasiadau 'ma, er mwyn atal rhywun rhag disgyn yn y tŷ," meddai llefarydd ar ran yr elusen.
"'Da ni hefyd yn gweithio'n agos hefo'r bwrdd iechyd, er mwyn symleiddio'r broses wrth i unigolion ddychwelyd o'r ysbyty."
- Cyhoeddwyd29 Awst
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
Mae Rhian Morgan, Swyddog Materion Cyhoeddus Age Cymru, yn galw am fwy o ymwybyddiaeth a gweithredu lleol.
Er nad yw pob cwymp yn arwain at anaf difrifol, fe allai arwain at "straen meddyliol a chorfforol", meddai.
"Mae atal cyfran fach o'r digwyddiadau yn mynd i ryddhau'r straen ar y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru."
"Trwy wneud newidiadau bach fel cadw'n heini, bwyta'n dda a hyd yn oed wisgo esgidiau cyfforddus a chefnogol, maent i gyd yn cyfrannu at atal cwympiadau yn ein cartref."

Mae Canllaw yn elusen yng Ngwynedd a Môn sy'n cynnig gwneud mân addasiadau i dai i gefnogi pobl hŷn a bregus.
Yn genedlaethol, trwy asiantaethau Gofal a Thrwsio ar draws Gymru, cwblhaodd 25,000 o ymyriadau er mwyn atal cwympiadau.
Yn ôl Elfyn Owen, Prif Swyddog Canllaw, yr her fwyaf ydy adnabod y bobl sydd yn fregus o fewn y gymuned.
"Fel gwasanaeth 'da ni'n gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i adnabod y bobl.
"Ond, mae'n bwysig i adnabod y rhai sy'n byw mewn tai sydd ddim hefo'r addasiadau ac efallai bod peryg iddynt ddisgyn," meddai Mr Owen.

Mae criw elusen Canllaw yn cefnogi pobl hŷn a bregus
Dywedodd fod pobl yn y gymuned yn aml wedi eu hynysu, a bod wythnos o godi ymwybyddiaeth yn angenrheidiol i daclo hyn.
"Yr her fwyaf ydy adnabod y bobl sydd yn fregus ac angen cymorth ychwanegol.
"Da ni'n gweithio'n ddiflino i geisio mynd allan i'r gymuned i gynnig ein gwasanaeth. Mae modd i deuluoedd neu ofalwyr cysylltu hefo ni'n uniongyrchol."
Ymysg y newidiadau sy'n cael eu cynnig mae rampiau neu addasiadau i risiau a thai bach, oll gyda'r bwriad o'i "gwneud hi'n ddiogel i'r rhai sydd wedi disgyn, i allu mynd yn ôl i normalrwydd a byw bywyd o ansawdd heb orfod poeni".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.