‘Heriau sylweddol’ pobl hŷn heb lwfans tanwydd y gaeaf
- Cyhoeddwyd
Mae "heriau sylweddol" yn wynebu pobl hŷn yn sgil y toriadau i lwfans tanwydd y gaeaf, yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru.
Cafodd Rhian Bowen-Davies ei phenodi i'r swydd ym mis Gorffennaf.
Dywedodd ei bod yn cydnabod heriau'r misoedd nesaf yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri taliadau tanwydd y gaeaf, y cynnydd yn y cap ynni a goblygiadau posib cyllideb yr Hydref.
Cyhoeddodd y Canghellor newydd, Rachel Reeves, fis diwethaf na fyddai pensiynwyr yn cael y taliadau blynyddol o'r hydref yma ymlaen oni bai eu bod yn derbyn credyd pensiwn neu fudd-daliadau eraill.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi dweud fod yn rhaid torri ar y cynllun oherwydd y sefyllfa ariannol ar ddiwedd cyfnod y Blaid Geidwadol mewn grym yn San Steffan.
'Canllawiau yn dynn'
Yn ôl Lyndon Lloyd o Age Cymru Ceredigion, mae sawl her yn wynebu pobl hŷn y gaeaf hwn.
Dywedodd bod angen delio gyda materion fel y credyd pensiwn, cymorth ar ôl gadael yr ysbyty a thaliadau cartrefi gofal.
Wrth drafod taliadau tanwydd y gaeaf, dywedodd bod "pobl ddim yn gwybod be' oedd credyd pensiwn, doedd neb wedi sôn amdano fe.
"Y broblem arall wrth geisio amdano, be sy’n eich taro chi yw bod canllawiau yn dynn.
"Ma' sawl un yn dweud wrthyf eu bod nhw ddim yn gweld y pwynt i drio."
Ychwanegodd bod yna "broblem gofal mewn siroedd2.
"Does dim digon o ofalwyr," meddai.
"Ma' eisiau’r comisiynydd edrych mewn i le ma' gofalwyr, pam nad oes gofalwyr?"
- Cyhoeddwyd11 Medi 2024
- Cyhoeddwyd21 Awst 2024
Dywedodd Rhian Bowen-Davies bod pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a materion fel unigrwydd yn achosi "anfanteision lluosog" i bobl hŷn.
Ychwanegodd ei bod hi’n cydnabod eu bod nhw’n cael hi’n ‘”fwyfwy anodd cael gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth hanfodol sydd eu hangen arnynt".
"Nid wyf yn tanbrisio difrifoldeb y materion hyn, ac o'r cychwyn cyntaf, fe fyddai’n sicrhau bod eu profiadau a'u pryderon yn cael eu clywed gan y rheini sy’n llunio polisïau," dywedodd.
"Ond bydd fy nhîm a minnau yn craffu ar ystod eang o bolisïau ac arferion sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl hŷn, ac ni fyddaf yn oedi cyn dwyn sefydliadau ac unigolion i gyfrif lle bydd hyn yn sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl hŷn."
Fe fydd y comisiynydd yn ymweld â chymunedau ar draws Gwynedd a Phowys yn ystod yr wythnos hon.
Wrth drafod ei rôl newydd, dywedodd: "Mae ansawdd ein bywydau wrth i ni dyfu'n hŷn yn cael ei ddylanwadu gan ystod o ffactorau fel ein hiechyd, ein tai a'n hincwm, yn ogystal â ble rydym yn byw a'r mathau o gymorth, gwasanaethau a rhwydweithiau cymunedol sydd ar gael i ni.
"Rwy'n awyddus i gyfarfod a chlywed gan bobl hŷn ym mhob rhan o Gymru i ddeall ystod yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu.
"Gan weithio gyda, ac ar ran, pobl hŷn rwy'n edrych ymlaen at wneud cyfraniad cadarnhaol - diogelu hawliau, herio gwahaniaethu a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb."