Teyrnged i ferch 'anhygoel' 15 oed a fu farw mewn afon
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch yn ei harddegau a fu farw mewn afon ym Mhowys wedi dweud y bydd "bwlch yn ein bywydau na fydd fyth yn gwella" yn dilyn ei marwolaeth.
Roedd Holli Smallman yn 15 oed ac o'r Trallwng.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r dref ddydd Gwener, 9 Awst er mwyn chwilio am berson yn Afon Hafren.
Cafodd ei chorff ei dynnu o'r dŵr tua 20:00 y noson honno.
Dywedodd ei theulu bod "torcalon a galar wedi'n chwalu ni gyd".
'Person anhygoel'
Mewn datganiad, dywedodd ei theulu: "Roedd Holli yn chwaer, merch ac wyres oedd wedi ei charu gan ei theulu cyfan, ffrindiau a theulu estynedig.
"Roedd Holli yn byw bywyd oedd yn llawn o ganu a dawnsio ac roedd ei natur bositif yn gadael ei ôl ar bawb y gwnaeth eu cyfarfod.
"Roedd yn ddisgybl poblogaidd yn Ysgol Uwchradd y Trallwng, lle'r oedd yn arbennig o hoff o gelf a bod yn greadigol.
"Cafodd Holli ei chipio oddi wrthym yn llawer rhy ifanc. Mae'n gadael bwlch yn ein bywydau na fydd fyth yn gwella, a wnawn ni fyth anghofio'r person anhygoel yma."
Aeth y teulu ymlaen i ddiolch am yr holl negeseuon o gefnogaeth a charedigrwydd a gawson nhw gan y gymuned gyfan, gan hefyd fynegi eu cefnogaeth nhw i'r cyfeillion oedd gyda Holli pan aeth i'r afon.
Gorffennodd eu neges trwy ofyn am breifatrwydd wrth i'r teulu ymdopi gyda'u colled.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst
- Cyhoeddwyd10 Awst