Cymro ifanc yn cyhuddo Huw Edwards o ymddwyn yn amhriodol
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro ifanc wedi cyhuddo’r cyn-gyflwynydd newyddion Huw Edwards o ymddwyn yn amhriodol a cheisio ei feithrin.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar ar S4C, mae’r dyn ifanc, sydd bellach yn ei ugeiniau cynnar, yn dweud iddo dderbyn cyfres o negeseuon gan Edwards pan oedd yn fachgen ysgol 18 oed.
Mae'n honni ei fod wedi cael gwahoddiad i swyddfeydd y BBC yn Llundain a bod Edwards wedi cynnig ei helpu gyda'i yrfa, ond mae bellach yn gweld y negeseuon fel ymgais i'w swyno.
Mae cynhyrchwyr y rhaglen wedi gwneud sawl cais i gysylltu ag Edwards, ond hyd yma dyw'r cyn-gyflwynydd heb ymateb.
- Cyhoeddwyd16 Medi
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2023
Wrth siarad yn gyhoeddus am y cyfnod y bu'n cyfathrebu â Huw Edwards, fe wnaeth y dyn ifanc, sydd am aros yn ddienw, rannu cyfres o negeseuon a gafodd eu hanfon ato.
Yn y negeseuon yma fe gyfeiriodd Edwards ato fel “babe” a “big boy” a llofnodi ei negeseuon testun â chusanau.
Dywedodd hefyd iddo gael ei wahodd i swyddfeydd y BBC yn Llundain gan gyn-gyflwynydd News at Ten.
Yn fuan ar ôl iddo ymweld â'r safle, mae'n dweud bod y cyflwynydd newyddion wedi torri pob cysylltiad ag ef.
'Disgusting'
Dywedodd wrth Y Byd ar Bedwar ei bod yn "amlwg bod e’n trial groomo fi".
“Ma' pobl fel fe yn credu eu bod nhw’n gallu ’neud be bynnag ma' nhw moyn, a abuso’r pŵer. Just manipulative completely,” meddai.
“Rwy’n teimlo’n drist iawn am y bobl sydd wedi cael eu heffeithio’n waeth na fi. Fi’n teimlo’n lwcus mewn ffordd. Ma' fe’n hollol disgusting.”
Dywedodd y BBC mewn datganiad: "Rydym wedi bod yn glir ein bod wedi ein llorio gan gyhuddiadau Huw Edwards. Nid yn unig y mae wedi bradychu'r BBC, ond hefyd y cynulleidfaoedd a oedd wedi ymddiried ynddo.
"Mae adolygiad annibynnol wedi'i gomisiynu gan y Bwrdd o ddiwylliant gweithle'r BBC yn digwydd ar hyn o bryd, gyda ffocws penodol ar atal camddefnyddio pŵer gan sicrhau fod pawb yn y BBC yn dilyn ein gweithredoedd.
"Mae gan y BBC bolisïau a phrosesau diogelu cadarn ar waith. Os bydd pobl yn cysylltu â ni’n uniongyrchol gyda phryderon am ein protocolau, byddwn yn edrych ar y rhain yn ofalus, yn unol â Fframwaith Cwynion y BBC.”
Ar ôl pledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant, cafodd Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar wedi’i ohirio yn Llys Ynadon San Steffan ym mis Medi eleni.
Roedd ganddo 41 o ddelweddau anghyfreithlon o blant ar ei ffôn, gan gynnwys delwedd o blentyn rhwng tua saith a naw oed.
'Rhywbeth wedi digwydd i Huw'
Mae'r newyddiadurwr a chyflwynydd Beti George wedi gweithio'n gyson gyda Huw Edwards ac yn ei ystyried yn ffrind.
Wrth ymateb i’w droseddau’n gyhoeddus am y tro cyntaf, dywedodd ei bod wedi’i syfrdanu gan y datgeliadau a wnaed yn y llys.
“Mae rhywbeth wedi digwydd i Huw. 'Wn i ddim beth... Ond yr Huw dwi’n nabod neu’n meddwl ro’n i’n nabod, fyddai e byth yn gwneud rhywbeth felly.
“Pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n gwneud y fath beth? Mae’n anodd ei gyfiawnhau – mewn gwirionedd nid oes cyfiawnhad dros hynny.”
Mae Y Byd ar Bedwar yn gynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C. Mae'r rhaglen ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer