'Gallai coedwigwyr ifanc ddatrys argyfwng gweithlu'

coedwig
  • Cyhoeddwyd

Dylai pobl ifanc sy’n angerddol am yr amgylchedd hyfforddi fel coedwigwyr yn ôl y diwydiant ac maen nhw yn "sicr o gael swyddi".

Mae myfyrwyr hyd yn oed yn rhoi'r gorau i'w graddau ar ôl cael cynnig swyddi llawn amser gan gwmnïau sy’n “daer” angen staff.

Dywedodd arweinwyr y diwydiant coedwigaeth fod "argyfwng" gweithlu yn bygwth targedau plannu coed uchelgeisiol y Deyrnas Unedig i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Dywedodd llywodraethau Cymru a'r DU eu bod yn buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant.

Disgrifiad,

'Mae angen dysgu'r cyhoedd beth yw coedwigaeth', medd Dafydd Jones, 20 oed o Dywyn, Meirionnydd, sydd ar fin dechrau ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor ac wedi sefydlu ei gwmni ei hun

Bwriad prosiect newydd ym Mhrifysgol Bangor yw mynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin am y diwydiant a denu gweithlu iau a mwy amrywiol.

Mae myfyrwyr yn y grŵp 'Ysbrydoli Coedwigwyr y Dyfodol' yn bwriadu defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac ymweld ag ysgolion i rannu eu straeon eu hunain.

"Mae unrhyw un sy'n clywed am goedwigaeth yn meddwl mai dynion mawr gyda llifiau cadwyn yn torri coed i lawr ydi o," medd y myfyriwr meistr Mercy Babatunji, gan gyfeirio at y ffaith bod yna gymaint o wahanol gyfleoedd gyrfa.

Dywedodd merch 25 oed o dalaith Ondo yn Nigeria ei bod yn gobeithio gweithio fel coedwigwr trefol ar ôl gorffen ei hastudiaethau, gan hyrwyddo a rheoli coed mewn trefi a dinasoedd.

"Rydyn ni i gyd yn gwybod am effeithiau difrifol newid hinsawdd," meddai.

"Mae angen mwy o bobl ar lywodraethau ledled y byd i astudio coedwigaeth a mynd i'r maes hwn."

Mercy BabatunjiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gamsyniadau, medd Mercy Babatunji, o ran pa fath o bobl all wneud gwaith coedwigaeth

Yn ôl Katie Somerville-Hall, 24 o Reading, roedd myfyrwyr wedi cael gwybod ar eu diwrnod agored bod "pawb yn cerdded i mewn i swydd wedyn".

"Mae'n sector sy'n tyfu gyda llawer mwy o swyddi nag sydd o bobl gyda'r arbenigedd i'w gwneud - sy'n fonws enfawr," meddai.

Katie Somerville-Hall
Disgrifiad o’r llun,

Does dim digon o bobl gyda'r arbenigedd i lenwi'r holl swyddi sydd ar gael, medd Katie Somerville-Hall

“Rwy’n hoff iawn o’r syniad o gael effaith gadarnhaol ar dirwedd ac amgylchedd dros gyfnod hir, gobeithio,” ychwanegodd Beth Scott, 26 o Swydd Stirling.

Mae ganddi swydd eisoes wedi'i threfnu gyda chwmni coedwigaeth gartref yn Yr Alban unwaith y bydd ei thraethawd hir wedi'i gyflwyno ym mis Medi.

"Mae'r cwrs wedi dangos i mi pa mor amrywiol y gall y diwydiant fod - o goedwigaeth fasnachol, drwy agweddau mwy cymdeithasol coed a choetiroedd, i'r buddion amgylcheddol," meddai.

Beth Scott
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beth Scott ymhlith y myfyrwyr sydd wedi sicrhau swydd cyn iddi orffen ei hastudiaethau

Roedd y myfyrwyr yn cydnabod eu bod wedi "syrthio" i mewn i goedwigaeth, ar ôl astudio cyrsiau eraill fel bioleg neu ecoleg ar lefel israddedig.

Roeddent yn teimlo bod "diffyg ymwybyddiaeth" yn gyffredinol am y pwnc fel opsiwn i bobl ifanc.

Cannoedd o swyddi gwag

Mae Bangor yn un o dair prifysgol yn unig ar draws y DU sy’n hyfforddi coedwigwyr i lefel gradd ar hyn o bryd, tra bod y ddarpariaeth mewn colegau addysg wedi ei disgrifio'n “argyfyngus” yn 2021 mewn adroddiad gan sefydliadau coedwigaeth blaenllaw.

“Ry’n ni’n rhagweld bod tua 500 o swyddi proffesiynol heb eu llenwi yn y DU ar hyn o bryd ac mae’n debyg y bydd 10,000 o swyddi cymorth pellach,” esboniodd Dr Tim Pagella, sy’n rhedeg y rhaglen goedwigaeth israddedig ym Mhrifysgol Bangor.

Mae'r gweithlu'n heneiddio hefyd - erbyn 2030 disgwylir y bydd tua 20% o'r coedwigwyr presennol wedi ymddeol.

"Rwy'n credu ei fod yn argyfwng i ni. Pan fyddwn yn meddwl am newid hinsawdd mae coed yn un o'r pethau cyntaf rydyn ni'n siarad amdano, ac eto mae'r proffesiwn sy'n darparu coed i ni yn ei chael hi'n anodd recriwtio pobl."

Dywedodd fod sawl achos o fyfyrwyr yn mynd ar brofiad gwaith a ddim yn dod yn ôl.

"Maen nhw wedi mynd yn syth i mewn i swydd gyda char neis, cyflog da a choetir i’w redeg."

Ond mae'r sector yn dioddef problem delwedd sydd angen mynd i'r afael â hi, meddai, gan annog mwy o drafodaeth am goedwigaeth - "disgyblaeth hynod eang" - yn y cwricwlwm ysgol.

Mae llywodraethau wedi ymrwymo i gyflymu’r broses o blannu coed er mwyn helpu i amsugno allyriadau carbon, gyda tharged y DU o greu 30,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn erbyn 2025.

I roi cyd-destun, mae un hectar tua'r un maint ag un cae rygbi.

Mae'n amhosib gwadu, medd Dr Pagella, bod y targedau hyn mewn perygl oherwydd prinder coedwigwyr proffesiynol yn dod drwy'r system.

Sean
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gweld gwaith coedwigaeth fel proffesiwn, medd Sean Reilly o'r corff FISA

Mae gan y sefydliad sy'n gofalu am iechyd a diogelwch mewn coedwigaeth bryderon hefyd am brinder gweithlu'r DU.

Yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos hon, mae Cytundeb Diogelwch y Diwydiant Coedwig (FISA) wedi lansio bwrsariaeth newydd i gefnogi myfyrwyr ar gyrsiau gradd coedwigaeth proffesiynol.

"Rydym angen pobl ifanc sy'n ddeinamig, wedi'u haddysgu ac yn ffocysedig i arwain y diwydiant coedwigaeth i’r dyfodol," esboniodd cyfarwyddwr FISA, Sean Reilly.

Honnodd nad oedd y diwydiant wedi cael ei ystyried yn ddewis gyrfa "proffesiynol" yn y DU yn y degawdau diwethaf a bod angen i hynny newid.

"Yn y rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd mae coedwigwr yn cael ei weld fel rhywun gyda lefel uchel o sgil a sy’n chwarae rôl ganolog o fewn cymuned neu amgylchedd leol," ychwanegodd.

"Pan fyddwch chi'n meddwl am ansawdd eich bywyd, y rhyngweithio â natur a'r amgylchedd rydych chi'n gweithio ynddo - coedwigaeth yw un o'r gyrfaoedd gorau posib."

coedwigFfynhonnell y llun, Thinkstock

Ymateb y llywodraethau

Dywed Llywodraeth Cymru fod gan y sector coedwigaeth "rôl hollbwysig i'w chwarae yn nyfodol amgylcheddol ac economaidd Cymru".

Ychwanegodd llefarydd: “Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud fel rhan o’n Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren i Gymru a’n Cynllun Sgiliau Sero Net yn archwilio sut gallwn ni sicrhau bod gennym ni’r sgiliau cywir a’r hyfforddiant cywir ar gyfer y dyfodol”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn gwario £4.9m ar brosiectau i gefnogi addysg a sgiliau coedwigaeth o dan y Gronfa Natur ar gyfer yr Hinsawdd.

Mae hyn yn cynnwys "Rhaglen Prentisiaeth Coedwigwr Proffesiynol newydd ym Mhrifysgol Cumbria, y brentisiaeth coedwigaeth lefel gradd gyntaf sydd wedi'i chynnig yn y DU".

Pynciau cysylltiedig