'Rwy'n teimlo'n freintiedig i ennill Ysgoloriaeth Leah Owen'

Elin Rhys Owen yn derbyn y wobr gan Ynyr Llwyd
- Cyhoeddwyd
Mae enillydd Ysgoloriaeth Leah Owen eleni wedi dweud ei bod hi'n "teimlo'n freintiedig" a bod y profiad yn anrhydedd fawr.
Dywedodd Elin Rhys Owen, athrawes yn Ysgol Pen Barras yn y Rhuthun, ei bod yn "hynod gyffrous" o glywed ei bod wedi derbyn yr ysgoloriaeth.
Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu er cof am y gantores Leah Owen, yn dilyn ei marwolaeth ym mis Ionawr 2024.
Mae Elin yn byw wrth ymyl Cerrigydrudion a hi ydy ail enillydd yr ysgoloriaeth a gafodd ei sefydlu gan Gerdd Cydweithredol Sir Ddinbych ar y cyd â theulu Leah y llynedd.
Mae'r wobr yn ariannu ysgoloriaeth flynyddol i alluogi athro neu ddisgybl Blwyddyn 11 a hŷn o Sir Ddinbych i fynd ar gwrs blynyddol dan arweiniad Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.

Dywedodd Elin ei bod yn edmygydd o Leah Owen ers amser maith ac wedi ei chyfarfod ar sawl achlysur wrth ymweld ag Ysgol Pen Barras ar gyfer prosiectau.
"Roedd ei cherddoriaeth yn ddigymar," medd Elin.
"Roeddwn i bob amser yn teimlo ei bod yn fraint go iawn gallu ei chyfarfod, gwrando arni'n canu a gwylio hi'n mentora ein disgyblion ifanc a oedd wedi'u swyno'n llwyr gan ei cherddoriaeth."
Mae'r cwrs, sy'n cael ei ariannu gan yr ysgoloriaeth, yn hyrwyddo, cefnogi ac yn annog ymarfer canu cerdd dant.
'Ffrind annwyl'
Dywedodd sylfaenydd a phennaeth gwasanaeth Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, Heather Powell, fod Leah yn athrawes hawddgar iawn.
Dywedodd Ms Powell fod Leah ac yn ffrind annwyl i'w sefydliad a'i bod wedi helpu i hyrwyddo uchelgais cerddorol pobl ifanc ledled gogledd Cymru.
"Fel sefydliad rydym yn falch iawn o allu cefnogi ysgoloriaeth cerdd dant er cof am Leah ac i barhau â'i hetifeddiaeth drwy gefnogi doniau ifanc a rhoi mynediad at gerddoriaeth draddodiadol Gymraeg i blant Sir Ddinbych."

Bu farw Leah Owen yn 2024
Dywedodd Ynyr Llwyd, sy'n bennaeth cerddoriaeth yn Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug ei bod hi'n "noson wych".
"Dangosodd y cyfoeth o dalent cerddorol ifanc sydd gennym yng ngogledd Cymru.
"Rhaid rhoi clod dyledus i Heather a holl dîm Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych sy'n helpu i gadw cerddoriaeth ar yr agenda addysgol," medd Ynyr.
"Roeddwn yn falch iawn o allu cyflwyno'r ysgoloriaeth yn enw fy mam ac i wybod ei bod wedi cael ei dyfarnu i rywun sy'n ddehonglwr mor frwd o gerddoriaeth Gymreig a Cherdd Dant."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2024