'Nes i adael swydd 9 tan 5 i sefydlu busnes fy hun'

"Beth yw'r pwynt aros mewn job ti ddim yn mwynhau," meddai Sam Eastcott
Disgrifiad o’r llun,

Sam Eastcott: 'Beth yw'r pwynt aros mewn job ti ddim yn mwynhau?'

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl cyfnod yn gweithio mewn swyddi naw tan bump, roedd Sam Eastcott yn barod am newid.

Mae Sam, o Gaerffili, yn ei hugeiniau ac yn gwerthu dillad ail law i gwsmeriaid ar draws y byd.

"Os ti'n edrych ar TikTok, ti'n gweld faint o bobl sy'n gadael corporate jobs nhw i dechre' busnes, mae ddim yn surprising," meddai.

"Fi'n credu gyda lle mae'r byd ar hyn o bryd a faint o arian mae popeth yn costio, beth yw'r pwynt aros mewn job ti ddim yn mwynhau?

"Ni gyda un bywyd, mae'n rili byr, you might as well do it while you're young neu ti byth yn mynd i 'neud e."

"Ti'n gallu rheoli amser dy hunan - ti yw boss dy hun," meddai Megan Haf Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Ti'n gallu rheoli amser dy hunan - ti yw boss dy hun," meddai Megan Haf Davies

Un arall sydd wedi mynd ati i gychwyn busnes yn ddiweddar yw Megan Haf Davies, sy'n 22 oed ac yn byw yng Nghaerdydd.

Yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'n dweud "se ni'n bendant ddim yn gallu fforddio bywyd stiwdant" heb yr arian mae'n ei wneud trwy'r busnes cynnal partïon pen-blwydd.

"Nes i agor y bookings lan yn y flwyddyn newydd ac o fewn dwy wythnos o'dd pob weekend wedi bwcio," meddai.

"Ar hyn o bryd fi'n llawn dop o nawr tan y Pasg."

Yn ôl ffigyrau diweddar, mae 62% o genhedlaeth Gen Z ym Mhrydain - pobl sydd wedi'u geni rhwng tua 1997 a 2012 - yn ystyried cychwyn busnes rhyw bryd yn ystod y flwyddyn yma.

Ymdopi gyda chynnydd costau byw, a manteisio ar sgil neu ddiddordeb yw'r prif resymau dros wneud hynny.

'Mwy hyblyg dyddie 'ma'

Dyw Megan "ddim wedi synnu" bod cymaint o bobl ifanc eisiau mentro i fyd busnes.

"Ni'n camu at gymdeithas sy'n rhoi pwyslais ar y work life balance mwy nag oedd ein rhieni ni wedi gweld felly fi'n meddwl bod hynny yn rhoi tân ym moliau lot o bobl i ddechre busnes ei hun.

"Ti'n gallu rheoli amser dy hunan, ti yw boss dy hun, ma' fe lot mwy hyblyg dyddie 'ma hefyd."

Yn ôl yr arbenigwr busnes a mentergarwch, yr Athro Dylan Jones Evans, mae pobl ifanc wedi "rhyw fath o syrffedu ar weithio i bobl eraill ac wrth gwrs ma' nhw'n gweld annibyniaeth yn beth pwysig yn eu bywydau, ac yn chwilio am balans rhwng eu bywyd a'u gwaith".

"Y mwya' o fusnesau newydd 'da ni'n eu cael, yn enwedig gan bobl ifanc sydd yn mynd i mewn i sectorau newydd, y mwya' o [dwf] gawn ni yn yr economi yma yng Nghymru yn y tymor hir."

Pynciau cysylltiedig