Cwmni menyw o Sir Benfro yn 'ffynnu' er cael ei gwrthod ar Dragons Den

Lucie Macleod yn gwenu. Mae ganddi wallt hir brown ac yn gwisgo crys lliw hufen
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Lucie i greu cynnyrch gwallt tra roedd hi'n fyfyrwraig yn y brifysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc o Sir Benfro, cafodd ei chwmni cynnyrch gwallt ei wrthod ar raglen BBC Dragons' Den, yn dweud bod ei busnes dal yn ffynnu.

Dechreuodd Lucie Macleod, 24 oed, ddechrau creu ei chynnyrch yng nghegin ei fflat myfyrwyr, ac mae'n dweud bod disgwyl i'w busnes 'Hair Syrup' greu £6.5m mewn refeniw eleni.

Roedd y profiad o ymddangos ar y rhaglen i geisio ennill buddsoddiad yn un "dwys iawn" meddai, ond y "penderfyniad gorau" mae hi erioed wedi'i wneud.

Doedd Lucie heb gael cynnig ariannol gan y bobl fusnes ond dywedodd iddi "ddysgu llawer o wersi gwerthfawr iawn".

Cafodd Lucie y syniad i ddatblygu 'Hair Syrup' yn 2019, wrth astudio llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Warwick.

Dywedodd roedd hi'n yn "rhwystredig" gyda'i gwallt ar ôl "blynyddoedd o ddifrod gwres" ac yn methu dod o hyd i gynnyrch addas.

Felly aeth ati i weithio yn ei chegin gan berffeithio gwahanol gyfuniadau i helpu ei gwallt dyfu a chryfhau.

Dywedodd iddi ddod o hyd i fformiwla lwyddiannus a ddechreuodd i "adfywio fy ngwallt yn llwyr", meddai.

Ym mis Mai 2020, penderfynodd rannu ei chanfyddiadau ar TikTok, a gafodd ei wylio dros 600,000 o weithiau.

Lucie a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant Lucie wedi bod yn "swreal" meddai ei theulu

"Roeddwn i'n meddwl ei fod yn wallgof bod pobl yn gofyn i mi werthu olew gwallt o'n i yn llythrennol wedi creu yn fy nghegin," meddai.

Ar ôl i ffrind awgrymu y dylai werthu ei chynnyrch, penderfynodd Ms Macleod sefydlu'r busnes yn ystafell wydr ei rhieni.

Defnyddiodd TikTok i'w hyrwyddo a dywedodd o fewn cwpl o fisoedd yr oedd hi'n gwneud swm sylweddol.

"Doedd mam a dad ddim yn gallu credu'r peth. Roedd bron yn rhy swreal i gredu hyd yn oed," meddai.

"Doeddwn i ddim hyd yn oed yn meddwl y byddwn i'n cyrraedd trothwy treth ar y pryd."

'Mynd â'r brand i gyfeiriad newydd'

Fe wnaeth Dragons Den gysylltu â Lucie yn 2024 a phenderfynodd gymryd rhan ar y sioe ym mis Mehefin.

Dywedodd: "Roeddwn i'n teimlo bod y brand yn mynd yn fawr iawn ac ychydig bach allan o fy rheolaeth.

"Roeddwn i'n meddwl y byddwn i wrth fy modd yn cael arbenigwyr i'm helpu i fynd â'r brand i gyfeiriad newydd."

Lucie a'i ffrindiauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Methodd â chael £190,000 yn gyfnewid am gyfran ecwiti o 3% yn ei chwmni ond ym mis Hydref 2024, llwyddodd i ddechrau gwerthu ei chynnyrch yn Boots - un o'i phrif nodau ers dechrau'r cwmni.

Ychwanegodd: "Roedd yn foment fawr iawn i mi, oherwydd roeddwn i'n llythrennol yn arfer dweud bod y cynhyrchion hyn yn mynd i fod yn siopau Boots un diwrnod, ac roedd pobl yn meddwl fy mod i wedi colli'r plot yn llwyr."

Ers ffilmio'r sioe, dywedodd Lucie bod ei busnes wedi tyfu'n gyflym gyda thîm o 14 o staff, wedi'i leoli mewn dwy uned warws yn Sir Benfro.

Pynciau cysylltiedig