Geraint Davies a Hei Mistar Urdd: 'Rhyfeddod y gân sy'n gwrthod marw'

Dywedodd Geraint Davies fod mynd i Aelwyd Treforys ym mro'r Eisteddfod eleni wedi "newid ei fywyd"
- Cyhoeddwyd
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mharc Margam yr wythnos hon.
Gyda miloedd o blant yn heidio i ardal Castell-nedd Port Talbot i gystadlu, un gân a fydd yn sicr yn atseinio drwy'r maes gydol yr wythnos yw'r glasur, Hei Mistar Urdd.
Mae'r Eisteddfod hon yn un leol i gyfansoddwr y gân, Geraint Davies, a symudodd i Gwm Tawe yn 10 oed.
Dywedodd mai ei gyfnod yn Aelwyd Treforys oedd y sbardun iddo gychwyn cyfansoddi caneuon Cymraeg.
Aelwyd Treforys yn 'ddeffroad' i'r Gymraeg
Er i Geraint gael ei fagu yn Llanymddyfri, fe symudodd ef a'i deulu i Gwm Tawe pan oedd yn 10 oed.
Er mai Cymraeg oedd iaith y cartref, dywedodd mai'r "sioc fwyaf ges i pan symudon ni fel teulu oedd deuoliaeth Abertawe o'i gymharu â Llanymddyfri".
Un elfen o'i fywyd yng Nghwm Tawe a fu'n ddylanwad pellgyrhaeddol ar ei fywyd a'i yrfa fel cerddor oedd Aelwyd Treforys, sy'n lleol i'r Eisteddfod eleni.
Dywedodd: "Roedd mynd i Aelwyd Treforys yn rhyw fath o chwa o awyr iach a chwrdd â phobl eraill hefyd.
"Roedd cwrdd â phobl eraill o wahanol rannau o Abertawe yn rhyw fath o ddeffroad.
"Ro'n i'n cael mynd i gwrdd ag aelwydydd eraill yn yr ardal, mynd i ddigwyddiadau cenedlaethol a chwrdd â phobl ardraws Cymru.
"Roedd e'n ddylanwad mawr arna' i."

David Gwyn a Pamela John o Dreforys yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes gan Heledd Cynwal
Ac yntau wedi mynd ymlaen i fod yn aelod o sawl band Cymraeg, gan gynnwys Hergest, dywedodd Geraint i'r cyfan gychwyn tra'r oedd yn mynychu'r aelwyd.
"Dyna lle dechreues i sgwennu a chyfansoddi - yn wreiddiol sgwennu geiriau i gyfieithiadau o ganeuon i'r criw noson lawen."
Dau o sylfaenwyr yr aelwyd - David Gwyn a Pamela John - sy'n derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled, Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr Parc Margam a'r Fro 2025.
Wrth gofio yn ôl i'r cyfnod arbennig hwnnw, dywedodd: "Hebddyn nhw bydde fe ddim wedi bodoli, mae mor syml â hynny.
"Dyna lle dechreues i fy ngrŵp cyntaf.
"Mae'r ddau wedi cario 'mlaen - nhw sy'n rhedeg Cymdeithas Gymraeg Treforys ymhell yn eu hwythdegau."
'Stori ddigon syml'
Wrth sôn am y gân eiconig, Hei Mistar Urdd, dywedodd mai "stori ddigon syml" oedd y broses o'i chyfansoddi.
"Ro'n i ar staff yr Urdd, dim ond dau ohonon ni oedd yn y swyddfa - swyddfa Wynne Melville Jones drws nesaf - a oedd newydd ddyfeisio'r cymeriad cartŵn, ac fe feddyliodd y bydde'n handi cael rhyw fath o arwyddgan, ac fe drodd e ata i.
"Y rhyfeddod mwya' yw'r gân - y gân sy'n gwrthod marw.
"Mae wedi para, mae 'na sawl fersiwn wedi ymddangos ar hyd y blynydde, a phob tro mae 'na un newydd yn mynd mas, dwi'n meddwl, 'grêt'."
Dywedodd mai symlrwydd y gân yw'r gyfrinach pam iddi oroesi cyhyd - "a'r gyfrinach arall yw bod Urdd yn odli gyda choch, gwyn a gwyrdd!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd12 Mai
- Cyhoeddwyd7 Mai