Eisteddfod Dur a Môr yn gyfle i 'dynnu pawb at ei gilydd'

- Cyhoeddwyd
Mae ardal Castell-nedd Port Talbot yn barod i groesawu i ymwelwyr i Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 yr wythnos nesaf.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mharc Margam ym Mhort Talbot - yr un safle ag Eisteddfod yr Urdd 2003.
Eleni mae yna fwy o ddysgwyr Cymraeg yn cystadlu nag erioed o'r blaen, gyda'r rhan fwyaf o gystadleuwyr yn dod o ranbarth Gorllewin Morgannwg.
Yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith, Laurel Davies, mae'r ŵyl wedi bod yn gyfle i "dynnu pawb at ei gilydd".

Mae addurniadau i'w gweld ar hyd a lled y sir
Bydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr yn cael ei chynnal rhwng 26 a 31 Mai.
Yn ôl y mudiad mae cyfanswm o 119,593 o gofrestriadau wedi bod i gystadlu yn yr Eisteddfod eleni - mwy nag erioed o'r blaen.
Mae 42% o gynnydd yn nifer y dysgwyr Cymraeg ifanc sydd wedi cymryd rhan hefyd, o gymharu â llynedd.
Pryder traffig yn sgil gŵyl arall
Nid yr Urdd fydd yr unig ŵyl ym Margam dros ŵyl y banc - bydd gŵyl In It Together yn cael ei chynnal tua milltir i ffwrdd o faes yr Eisteddfod.
Cyngor Llio Maddocks, cyfarwyddwr y celfyddydau Urdd Gobaith Cymru, yw i gynllunio'ch taith o flaen llaw.

"Mae pawb yn gwybod bod o'n gallu bod yn ardal brysur o ran traffig beth bynnag," meddai.
"'Da ni wedi bod yn cydweithio'n agos efo In It Together, a mae'u traffig nhw'n gadael lle mae un ni'n dod i fewn.
"Ein cyngor ni ydy i ddechrau'n ddigon cynnar."
Codi arian 'wedi bod yn her'
Yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith, Laurel Davies, mae codi arian wedi bod yn "heriol".
"Dyw hi ddim yn ardal gyfoethog. Ni 'di 'neud yn arbennig o dda," meddai.
"Dwi ddim yn siŵr ein bod ni wedi cyrraedd y targed eto ond mae'r arian yn dal i ddod mewn."
Mae teuluoedd incwm is yn medru hawlio tocynnau am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni.

Yn ôl Sienna (chwith) a Ronwen (dde) mae'r ŵyl yn dod i'r ardal wedi cyfnod heriol
Ers y cyhoeddiad y byddai'r Eisteddfod yn ymweld â'r fro ddiwydiannol yn 2023, mae tipyn wedi newid i'r ardal, gyda 2,800 o swyddi wedi'u torri ym maes dur ym Mhrydain - y mwyafrif o'r rheiny ym Mhort Talbot.
Mae Ronwen, 14, yn gobeithio bydd ymwelwyr yn gweld beth sydd gan yr ardal i'w chynnig.
"Mae sawl person wedi colli swyddi, ond wrth i Eisteddfod Dur a Môr ddod yma mae'n dod â hope i ni," meddai.
Gobeithio y bydd ymwelwyr yn dysgu am hanes yr ardal mae Sienna, 12.
"Mae'r Eisteddfod yn gwneud i mi deimlo'n obeithiol oherwydd bydd lot o bobl ddim yn sylweddoli pa mor bwysig yw'r gwaith dur i Bort Talbot," meddai.

Yn ôl Betsan Gower Gallagher, mae'n bwysig i bawb i deimlo'u bod nhw'n perthyn i'r Urdd
Yn ôl Betsan Gower Gallagher, sydd wedi bod yn cynnal gweithdai gydag ysgolion y rhanbarth i greu murluniau ar gyfer yr ŵyl, mae'n bwysig bod pawb yn teimlo'n rhan o'r dathliadau.
"Dwi mor falch ein bod ni wedi rhoi'r siawns i bob plentyn i ddisgleirio," meddai.
"Dwi wedi bod i ysgolion Saesneg ac ail iaith, felly mae'n rhoi'r siawns i blant i ddathlu, mwynhau a dysgu am yr Urdd, a denu nhw i'r Gymraeg."
Mae gan ddwy o ferched Betsan anghenion dysgu ychwanegol, ac mae hi wedi cynnal gweithdy darlunio yn eu hysgol nhw, yn ogystal â hosbis plant Tŷ Hafan.
"O'n i'n meddwl byddai dim siawns i'm mhlant i [fod yn rhan o weithdy], ond mae'r Urdd wedi 'neud yn siŵr 'mod i wedi gallu mynd yno.
"Mae mor bwysig bod pob plentyn yn teimlo fel eu bod nhw'n perthyn."

Mae Ifan, Cerith a Jacob wedi bod yn gweithio'n galed i greu murlun o enwogion Trebannws
Mae plant Ysgol Trebannws wedi creu murlun sy'n dangos enwogion yr ardal.
Dywedodd Ifan, sy'n 10 oed: "Mae'n neis gallu croesawu pobl i'r Eisteddfod ac i Drebannws."
O Glydach i Gastell-nedd, mae addurniadau ar hyd y rhanbarth i groesawu pobl i'r ardal, gan gynnwys murlun sy'n deyrnged i fand Edward H Dafis ym Margam.
"Dwi'n hoffi e achos mae pobl yn gallu gweld beth mae Trebannws yn golygu i blant Trebannws," meddai Cerith, 10.
"Mae'n dda i bobl weld faint o chwaraewyr rygbi sydd wedi dod o Drebannws a chwarae i Gymru."
Sut mae cyrraedd yr Eisteddfod?
Mae Parc Margam wedi ei leoli rhwng cyffordd 37 a 38 yr M4.
Mae'r Urdd yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd maes yr ŵyl.
Bydd bws wennol, dolen allanol yn rhedeg rhwng gorsaf drenau Parcffordd Port Talbot a phrif fynedfa maes yr Eisteddfod yn ystod yr ŵyl.
Fe fydd y gwasanaeth am ddim, ac yn rhedeg rhwng 06:30 ac 21:56 neu 23:26, yn ddibynnol ar y diwrnod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai
- Cyhoeddwyd12 Mai
- Cyhoeddwyd1 Mai