Cyhoeddi enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes 2025

David Gwyn a Pamela John o Dreforys, Abertawe yn derbyn y tlws gan Heledd Cynwal
- Cyhoeddwyd
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi mai David Gwyn a Pamela John o Dreforys, Abertawe yw enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled, Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr Parc Margam a'r Fro 2025.
Mae'r pâr priod wedi bod wrthi ers degawdau yn hybu'r Gymraeg a diwylliant Cymreig ymhlith plant a phobl ifanc eu hardal.
Yn yr 1960au cynnar fe wnaethon nhw sefydlu Aelwyd yr Urdd Treforys yn Festri Capel y Tabernacl ac am y tro cyntaf roedd cyfle i bobl ifanc yr ardal ddod at ei gilydd yn lleol i gymdeithasu drwy'r Gymraeg.
Y gyflwynwraig Heledd Cynwal gafodd y fraint o gyhoeddi'r newyddion yng Nghapel y Tabernacl, Treforys ddoe.
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
Mae Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled yn gwobrwyo gwirfoddolwyr arbennig sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Ymhlith dros 100 o aelodau Aelwyd yr Urdd Treforys fyddai'n cyfarfod bob nos Wener oedd y cerddor a'r cyfansoddwr Geraint Davies (Mynediad am Ddim) a'r diweddar Dewi Pws, a nododd mewn un cyfweliad iddo "ddarganfod ei Gymreictod" yn 15 oed yn Aelwyd yr Urdd yng Nghapel Treforys.
Dywedodd Geraint Davies, cyfansoddwr 'Hei Mistar Urdd': "Ro'n i'n 15 oed yn ymuno ag Aelwyd Treforys ym 1968 a does dim dwywaith i hynny newid fy mywyd i.
"David Gwyn a Pam John oedd wrth y llyw bryd hynny, cyn hynny ac am flynydde lawer wedi hynny gan greu corau, partïon dawnsio gwerin a chriwie Noson Lawen ymhlith y gore yng Nghymru, a hynny o ddeunydd crai digon anystywallt."
'Ehangu gorwelion'
Aeth ymlaen i ddweud fod: "Drws agored i Gymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd mewn cyfnod lle'r oedd addysg uwchradd yn Abertawe yn hollol Seisnig.
"Dyma'r antidôt – trochfa o Gymreictod bob nos Wener ac ambell Sadwrn.
"Y bonws mawr oedd bod David yn meddu ar drwydded gyrru bws, alluogodd ni i deithio'n gyson at aelwydydd eraill, digwyddiadau cenedlaethol a mor bell â'r Alban ym 1970.
"Ehangu gorwelion. Ffindes i gymar oes yn yr Aelwyd honno, hefyd, a rwy'n un o nifer.
"Maen nhw dal wrthi flynyddoedd yn ddiweddarach – yn cynnal gweithgarwch Cymdeithas Gymraeg Treforys. Diolch a llongyfarchiadau David a Pam!"

Dywedodd Geraint Davies fod mynd i Aelwyd Treforys wedi "newid ei fywyd"
Cyn ymddeol, roedd y ddau yn gweithio yn y byd addysg. Roedd David yn Bennaeth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las a Pamela yn athrawes yno. Fe wnaeth y ddau ddathlu eu Priodas Ddiemwnt haf diwethaf.
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: "Dyma ddau hoffus a phoblogaidd sydd wedi cyfrannu gymaint at Gymreictod ardal yr Eisteddfod eleni, sy'n llawn haeddu Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled 2025.
"Mae angen gwirfoddolwyr ac unigolion fel David a Pamela yn ein hardaloedd, sy'n hapus i roi o'u hamser prin i gefnogi ein hieuenctid. Mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy ac rydym ni'n ddiolchgar am eu gwaith diflino dros y degawdau."
Bydd David a Pamela yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni arbennig ar Faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025.
Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.