Miloedd o rieni i gael cais i beidio rhoi ffôn clyfar i'w plant nes 14

- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o rieni mewn un sir yng Nghymru wedi cael cais i beidio â phrynu ffonau clyfar i'w plant nes eu bod nhw'n 14 oed.
Cyn diwedd y flwyddyn academaidd, fe fydd pob ysgol uwchradd yn Sir Fynwy wedi anfon llythyr at rieni disgyblion blwyddyn 6 ynghylch y mater.
Mae'r sir yn credu mai nhw fydd y cyntaf ym Mhrydain i greu polisi ar draws y sir ynglŷn â defnydd plant o ffonau clyfar.
Er bod holl ysgolion y sir wedi gwahardd y defnydd o ffonau symudol yn barod, mae dal pryder bod rhai plant yn treulio dros wyth awr y dydd ar eu ffonau.
Dywed un athrawes bod ffonau symudol wedi amharu ar ymddygiad disgyblion yn ei gwersi hi.
"Mae angen i blant ddysgu sut i ddefnyddio ffôn yn gyfrifol" meddai Anna Aggelton
Yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun Trefynwy, mae Anna Aggelton yn cofio cyfnod pan oedd ffonau symudol yn achosi "lot o broblemau" yn yr ysgol.
"Un peth amlwg oedd yn ystod amser egwyl ac amser cinio, doedd y plant ddim yn cyfathrebu â'i gilydd", meddai.
"Roedd problemau yn ystod gwersi lle'r oedd pobl just yn defnyddio eu ffonau yn lle cymryd rhan yn y wers.
"A hefyd roedd problemau yn digwydd tu allan i'r ysgol, sy'n anodd i ni fel ysgol i ddelio gyda."
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024
Bellach mae ysgolion y sir wedi gwahardd y defnydd o ffonau symudol yn ystod oriau ysgol, gyda Ms Aggelton yn dweud bod newid mawr wedi bod mewn agwedd y disgyblion.
Mae Ysgol Gyfun Trefynwy nawr yn arwain y polisi newydd yma, gan obeithio dod i'r afael â defnydd plant o'u ffonau i ffwrdd o'r ysgol.
Er bod rhai trefi a dinasoedd ym Mhrydain wedi rhoi cyngor tebyg i rieni, y gred yw mai Sir Fynwy yw'r sir gyntaf ble mae pob ysgol uwchradd yn cynghori'n erbyn ffonau clyfar tan i ddisgyblion droi'n 14 oed.
Bydd rhieni tua 9,000 o blant yn derbyn y llythyr, gydag Ysgol Gyfun Trefynwy yn dweud bod rhieni ddim yn cael eu "gorfodi" i ddilyn yr awgrymiadau.

Does gan Theo ddim diddordeb mewn defnyddio ffon clyfar
Mewn ysgol gynradd yn y sir, mae plant blwyddyn 6 eisoes wedi cynnal dadl ar effeithiau positif a negyddol defnyddio ffonau clyfar.
Mae Theo,11, yn erbyn ffonau clyfar a ddim yn defnyddio unrhyw ddyfais gyda sgrin adref.
"Dwi 'di ffeindio mas bod chi'n gallu gwneud bob dim 'da chi'n gallu ar ffôn clyfar ar ffon hen, neu brick phone fel mae plant yn galw fe.
"Felly, chi'n gallu ffonio rhywun ar brick phone, chi'n gallu cael lot o bethau ar brick phone ond dydy o hefyd ddim yn cymryd gormod o'ch sylw."

Mae James yn gobeithio cael ffôn clyfar ar ei ben-blwydd
Ar ei ben-blwydd fis Awst, mae James, 10, yn gobeithio cael ei ffôn clyfar cyntaf fel anrheg.
Ond mae ei rieni yn bwriadu cael gwared ar bob ap cyfrwng cymdeithasol oddi arno yn gyntaf.
Dywedodd James: "Does ddim llawer o otch gen i, 'oll o'n i eisiau oedd ffôn i allu cadw mewn cyswllt gyda ffrindiau pan maen nhw'n mynd i'r ysgol uwchradd a byddan nhw mewn dosbarth gwahanol i mi.
"Just i mi allu gweld sut maen nhw ac ati."

Mae Emma Manchand a'i gŵr yn ceisio gosod esiampl i'w plant trwy beidio defnyddio eu ffonau symudol ar rai penwythnosau
Mae'r llythyr yn rhoi penderfyniad mawr i rieni wneud cyn i'w plant gychwyn yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi.
Roedd Emma Manchand, sy'n fam i dri, yn teimlo fel "y rhiant gwaethaf yn y byd" ar ôl gwrthod prynu ffôn clyfar i'w mab Monty, 12, sawl tro.
"Oedd o'n teimlo fel ei fod yn colli mas. Bydde fe'n eistedd ar y bws ysgol heb ffôn, a phawb arall yn gwneud y daith gyda ffôn. Felly dwi'n meddwl gwnaeth e weld hynna'n reit anodd."
Er mwyn annog Monty a'i ddwy chwaer, dydy Emma a'i gŵr ddim yn defnyddio eu ffonau ar rai penwythnosau.
"Y tro cyntaf i mi wneud e, er fy mod i'n nerfus, ro' ni'n teimlo fel fy mod i 'di cael seibiant bach."

Mae Hugo Hutchinson yn arwain y cynllun fel pennaeth Ysgol Gyfun Trefynwy
Er rheolau llwyddiannus yn yr ysgol, mae prifathro Ysgol Gyfun Trefynwy, Hugo Hutchinson, yn gobeithio bydd y cynllun newydd yn golygu bydd llai o blant y sir yn "gaeth" i'w ffonau.
"Ni'n cael lot o broblemau lles, fel mae pob ysgol, sy'n ffynnu o weithgaredd ar gyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, neu pan ddylen nhw fod yn cysgu."
"Allan o holl amser disgyblion dros y flwyddyn, dydyn nhw ond yn treulio 12% o'u hamser yn yr ysgol.
"Felly os ni'n ceisio gwella defnydd disgyblion o gyfryngau cymdeithasol a'u ffonau ac yn trio lleihau eu dylanwad, ni methu gwneud hynna ar ben ein hunain."