Jane Dodds: 'Am gymryd amser' i adfer perthynas ag Ed Davey

- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn dweud ei bod am "gymryd amser" i adfer y berthynas rhyngddi hi ac arweinydd y blaid Brydeinig wedi iddo alw arni i ystyried ei dyfodol yn y rôl.
Fis Tachwedd diwethaf fe awgrymodd Syr Ed Davey y dylai Jane Dodds AS "fyfyrio" dros y modd y gwnaeth hi ddelio ag achos o gam-drin rhywiol pan oedd hi'n gweithio i Eglwys Loegr.
Daeth y sylw ar ôl i adroddiad yn 2021 nodi fod Ms Dodds wedi gwneud "camgymeriad dybryd" drwy beidio trefnu cyfarfod i drafod achos penodol o gamdriniaeth.
Ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru fod adfer y berthynas rhwng y ddau yn "bwysig iawn" a'u bod yn "gweithio tuag at hynny".
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2024
Mae Jane Dodds wedi ei chyhuddo o fethu â threfnu cyfarfod am achos o gam-drin person gafodd ei ddatgelu yn adroddiad 'A Betrayal of Trust' yn 2021.
Noda'r adroddiad fod y cyn-esgob Hubert Victor Whitsey, fu farw yn 1987, wedi cam-drin pobl ifanc yn rhywiol.
Ar ôl i Archesgob Caergaint, Justin Welby, ymddiswyddo, dywedodd Syr Ed fod angen i Ms Dodds "fyfyrio" am ei dyfodol fel arweinydd "yn ofalus iawn" a "meddwl am beth arall y gallai fod angen iddi ei wneud".
Fe wnaeth Ms Dodds ymddiheuro i'r dioddefwyr, gan ychwanegu ei bod am barhau yn ei rôl fel Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Mae Jane Dodds yn dweud ei bod yn hapus i barhau i gydweithio gydag Ed Davey
Dywedodd Ms Dodds wrth BBC Radio Cymru fod y blaid yng Nghymru yn ei chefnogi.
"Nes i feddwl am yr hyn oedd Ed yn ei ddweud, nes i siarad am y peth, siarad gyda phobl yn y blaid am y peth a nes i gael eu cefnogaeth nhw. Mae hynny'n bwysig iawn," meddai.
"'Da ni'n blaid sydd ar wahân i bleidiau eraill ar hyd y wlad, mae'r governance yn wahanol, felly ges i gefnogaeth y blaid a'r aelodau i gario 'mlaen a dyna dwi am ei wneud.
"Mae grŵp o bobl yn cynrychioli aelodau a nhw oedd yn gwneud y penderfyniad. Ges i gyfweliad gyda nhw, roedden nhw wedi darllen yr adroddiad ac yn ymwybodol o bopeth oedd wedi digwydd.
"Nes i ymddiheuro eto ac roedden nhw eisiau i mi gario 'mlaen a dyna dwi am ei wneud. Dwi eisiau sicrhau ein bod ni'n ennill seddi yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesa'."
'Mae gen i barch mawr at Ed'
Wrth gyfeirio at ei pherthynas ag arweinydd y blaid yn San Steffan, dywedodd Ms Dodds ei bod yn hapus i barhau i gydweithio.
"Mae'n glir, pan mae 'na wahaniaethau rhwng pobl yn eich teulu neu beth bynnag, mae hi'n cymryd amser i bethau ddod yn ôl," ychwanegodd.
"Dwi'n gweld bod hynny yn bwysig iawn a 'da ni'n gweithio tuag at hynny.
"Mae pawb yn rhydd i ddweud be' bynnag maen nhw eisiau, mae gen i barch mawr at Ed a bydd yna wahoddiad iddo ddod i Gymru i helpu ni ennill seddi'r flwyddyn nesaf."

Fe allai Ms Dodds chwarae rhan hollbwysig yn y bleidlais ar gyllideb Llywodraeth Cymru fis nesa
Yn y cyfamser, dywedodd Ms Dodds ei bod hi'n bwysig iawn i'r gwrthbleidiau yn y Senedd helpu sicrhau fod y gyllideb yn pasio.
Bydd y Senedd yn pleidleisio ar y cynlluniau ddydd Mawrth cyn bod pleidlais ar y gyllideb derfynol yn cael ei chynnal fis nesa.
Heb fwyafrif ym Mae Caerdydd bydd angen i Lafur ddod i gytundeb gydag un o'r gwrthbleidiau er mwyn pasio'i chyllideb, ac fel yr unig aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd, fe allai pleidlais Ms Dodds fod yn hollbwysig.
"Mae 'na drafodaethau wedi bod, a 'da ni heb benderfynu sut yn union fydda i yn pleidleisio," meddai.
"Mae'n bwysig iawn bod mwy o arian yn dod i mewn i wasanaethau cyhoeddus, gofal plant ac awdurdodau lleol. Mae hynny'n bwysig iawn i mi ac i'r blaid.
"Mae'n rhaid i ni gyd sicrhau fod y gyllideb yn mynd trwyddo, mae'n gyfrifoldeb arnom ni gyd.
"Os dydi hynny ddim yn digwydd fydd pobl Cymru yn colli arian, a dydi hynny ddim yn dderbyniol o gwbl."