O leiaf 52 mlynedd o garchar i ddyn o Gaerdydd am lofruddio tair merch

Axel RudakubanaFfynhonnell y llun, Heddlu Glannau Mersi
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n annhebygol y bydd Axel Rudakubana yn cael ei ryddhau o'r carchar, yn ôl y barnwr

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc sy'n hanu o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am isafswm o 52 mlynedd am lofruddio tair merch a cheisio llofruddio 10 arall mewn dosbarth dawns yn Southport y llynedd.

Roedd Axel Rudakubana, 18, wedi pledio'n euog i lofruddiaethau Alice da Silva Aguiar, naw oed, Bebe King, chwech, ac Elsie Dot Stancombe, saith.

Roedden nhw ymhlith nifer oedd yn cymryd rhan mewn dosbarth dawns ar thema Taylor Swift ar 29 Gorffennaf 2024.

Dywedodd y barnwr ei bod hi'n debygol na fydd Rudakubana fyth yn cael ei ryddhau.

Cafodd Rudakubana ei eni yng Nghaerdydd yn 2006 cyn i'r teulu symud i bentref Banks - ychydig filltiroedd o Southport - yn 2013.

Roedd Rudakubana, oedd yn 17 oed adeg yr ymosodiad ac yn byw yn Sir Gaerhirfryn, yn wreiddiol wedi gwrthod yr holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Ond gyda'r achos ar fin dechrau yn Llys y Goron Lerpwl ddechrau'r wythnos, fe blediodd yn euog i dri chyhuddiad o lofruddio, 10 cyhuddiad o geisio llofruddio, a bod â chyllell yn ei feddiant.

Fe blediodd yn euog hefyd i ddau gyhuddiad ar wahân yn ymwneud â therfysgaeth - cynhyrchu'r gwenwyn ricin a bod ym meddiant deunydd hyfforddi Al-Qaeda.

Elsie Dot Stancombe, Alice Aguiar a Bebe King
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elsie Dot Stancombe yn saith oed, Alice Aguiar yn naw a Bebe King yn chwech

Wedi'r digwyddiad, fe wnaeth camwybodaeth ar-lein am Rudakubana arwain at derfysgoedd ac anhrefn mewn sawl lleoliad ar draws y DU.

Cafodd tua 1,200 o bobl eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiadau hynny.

Mae dros 400 wedi cael eu cyhuddo, a degau ohonyn nhw wedi eu carcharu.

Niwed 'sylweddol a pharhaol'

Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Goose fod Rudakubana wedi lladd tri phlentyn mewn ymosodiad "ffiaidd".

"Roedd y trais mor eithafol, ac mor ddifrifol fel ei bod hi'n anodd deall pam fod hyn wedi digwydd," meddai.

Aeth yn ei flaen i ddweud ei fod yn sicr fod gan Rudakubana fwriad clir i gyflawni'r drosedd, a pe bai wedi gallu, fe fyddai wedi lladd pob plentyn ac oedolyn a ddaeth ar ei draws.

Ychwanegodd fod y niwed gafodd ei achosi i bob plentyn, y teuluoedd a'r gymuned yn "sylweddol" ac yn "barhaol".

Ni fydd teuluoedd y plant a fu farw fyth yn gwella, meddai, tra bod bywydau'r plant eraill wedi newid am byth.

Esboniodd y barnwr hefyd y byddai, mwy na thebyg, wedi dedfrydu Rudakubana i weddill ei oes yn y carchar pe bai wedi bod yn 18 oed pan gafodd y troseddau eu cyflawni.

Dyw'r gyfraith ddim yn caniatáu rhoi dedfryd o'r fath i berson dan 18 oed.

Axel RudakubanaFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae fideo wedi ei ryddhau o Rudakubana yn dal tacsi i'r man lle digwyddodd yr ymosodiad

Clywodd Llys y Goron Lerpwl gan deuluoedd y merched ifanc fu farw, yn ogystal â dioddefwyr eraill.

Mewn datganiad, dywedodd rhieni Alice da Silva Aguiar bod "eu bywydau wedi eu chwalu mewn mater o funudau".

"Fe wnaeth bob dim stopio ac roedden ni wedi rhewi. Aeth ein bywydau ni gyda hi, fe wnaeth o ein cymryd ni hefyd."

Dywedodd Alexandra a Sergio Aguiar fod Alice yn "ferch glên, brydferth a pherffaith" oedd â "byd llawn posibiliadau o'i blaen".

Mewn datganiad ar wahân, dywedodd mam Elsie Dot Stancombe, Jenny, ei bod hi wedi colli "ei ffrind gorau" ac nad oedd Rudakubana yn haeddu clywed pa mor rhyfeddol oedd hi.

"Ti'n gwybod yn iawn be ti wedi ei wneud, ac ry'n ni'n gobeithio fod hynny yn pwyso arnot ti bob dydd," meddai wrth y llofrudd.