Rhybudd nad yw Cymru'n ddeniadol i brosiectau ynni gwyrdd

Fferm wynt Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 'na rybudd nad yw Cymru'n wlad ddeniadol i gwmnïau sydd am ddatblygu ynni adnewyddadwy.

Oedi yn y broses gynllunio a phrinder capasiti yn y grid trydan sy'n cael y bai gan Renewable UK Cymru.

Mae'r corff sy'n cynrychioli'r sector ynni adnewyddadwy yma yn dweud y gallai rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig elwa ar draul Cymru.

Maen nhw'n galw am gydweithio rhwng y gwledydd i sicrhau nad yw Cymru'n colli cyfleoedd yn sgil menter GB Energy Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod datblygu swyddi gwyrdd a thwf economaidd gwyrdd yn flaenoriaeth, a'u bod yn cefnogi cydweithredu ar brosiectau ynni adnewyddadwy.

Oedi

Yn ôl Renewable UK Cymru mae 'na dri chynllun yn wynebu oedi oherwydd y broses gynllunio.

Gyda'i gilydd fe allen nhw bweru dros 170,000 o gartrefi a chyfrannu £1m y flwyddyn i gymunedau trwy gronfeydd buddion.

Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni eisiau sicrhau bod Cymru'n gallu cystadlu gyda gwledydd eraill yn y DU," meddai Manon Kynaston

Dywedodd cyfarwyddwr cynorthwyol Renewable UK Cymru, Manon Kynaston: "Maen nhw i gyd yn cael eu dal i fyny yn y system gynllunio ac yn wynebu oedi.

"Mae hynna'n rhoi signal nad yw Cymru'n lle deniadol i ddod i fuddsoddi ac ry'n ni eisiau sicrhau bod Cymru'n gallu cystadlu gyda gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig fel rhan o'r genhadaeth pŵer glan."

'Rhy fawr i Ynys Môn'

Mae Llywodraeth y DU yn gobeithio dyblu ynni gwynt ar y tir, a chynyddu ynni gwynt ar y môr bedair gwaith erbyn 2030, ond mae rhai cynlluniau - fel datblygiad paneli solar Alaw Môn - wedi cythruddo rhai yn lleol.

Fe fyddai'r cynllun yn ymestyn dros 268 hectar o dir amaethyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eifion O'Hare o'r farn na ddylid adeiladu prosiectau ynni ar dir amaethyddol

Mae Eifion O'Hare yn byw ym mhentre' Carreglefn gerllaw.

"Dwi gwbl yn erbyn y cynllun yma. Mae o'n llawer rhy fawr i Ynys Môn," meddai.

"Mae o bron fel Tryweryn, ble maen nhw'n boddi i roi i rywun arall.

"Maen nhw’n mynd i foddi’r tir da amaethyddol yma efo môr mawr o wydr du.

"Mae ynni gwyrdd yn grêt, ond pam 'da ni ddim yn adeiladu nhw ar ben meysydd parcio, ar dai pobl, neu ar hyd yr heol? Nid ar dir da amaethyddol.

"Dyw’r prosiect yma ddim yn dod â swyddi hir dymor i ardal sydd ei angen, ond mae o’n niweidio’r diwydiant amaeth.”

Dyw'r datblygwyr, Enso Energy, ddim wedi ymateb i gais BBC Cymru am ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Edward Thomas Jones ei bod hi'n bwysig fod Cymru'n cael "siâr teg o’r gwaith" ar ynni gwyrdd

Yn ôl yr economegydd Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor, mae'n bwysig manteisio ar y cyfleodd ddaw yn sgil menter GB Energy.

"Yn sicr mi fydd GB Energy yn gallu cael effaith yma yng Nghymru," meddai.

"Cynta' oll mi fydd 'na gryn dipyn o arian tu ôl i’r corff ac felly bydd hynny’n helpu datblygu technoleg gwyrdd yma.

"Ond beth sy’n bwysig yw ein bod ni’n cael ein siâr teg o’r gwaith yma yng Nghymru, a tydi o ddim yn canolbwyntio 'mond ar ardaloedd eraill ym Mhrydain.

"Ac mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda datblygwyr i wneud yn siŵr bod busnesau yma yn elwa."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jo Stevens yn dweud bod GB Energy yn "gyfle enfawr" i Gymru

Mae ysgrifennydd gwladol Cymru Jo Stevens hefyd yn dweud y bydd Cymru'n elwa.

"Mae’n gyfle enfawr i ni," meddai.

"Rydym eisoes wedi cyhoeddi saith prosiect ynni glân newydd yng Nghymru ers dod i rym a bydd y bartneriaeth honno rhwng GB Energy ac Ystâd y Goron yn golygu y gallai fod £60bn o fuddsoddiad preifat ar gael ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi gosod swyddi gwyrdd a thwf economaidd gwyrdd ar frig agenda Llywodraeth Cymru ac wedi rhoi ynni, economi a chynllunio gyda’i gilydd o fewn yr un adran er mwyn helpu sicrhau ymateb cyflym i brosiectau sy’n cael eu cynnig a sy'n cyd-fynd â'n huchelgeisiau.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dull cydweithredol ledled y DU ar gyfer cyfleoedd ynni adnewyddadwy, megis y dull a ddefnyddiwyd ar gyfer y Tasglu Gwynt ar y Môr Arnofiol”.