'Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf' cyn i Gymru gamu ar y llwyfan mwyaf

Merched yr ysgol gyda'r gwpan Ffynhonnell y llun, Ysgol Penweddig
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhai o ddisgyblion Penweddig y fraint o weld tlws UEFA y merched ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Wrth i dîm pêl-droed merched Cymru baratoi ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf yn un o brif gystadlaethau'r gamp eleni, mae tlws Ewropeaidd ar daith dros Gymru er mwyn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gefnogwyr.

Fe fydd Cymru'n cystadlu yn Euro 2025 yn yr haf - y llwyfan mwyaf erioed i'r tîm cenedlaethol.

Ar drothwy'r bencampwriaeth, mae Tlws Pencampwriaeth Merched Ewrop wedi bod ar daith o amgylch rhai o ysgolion a thimau pêl-droed llawr gwlad Cymru.

Gobaith Rhian Wilkinson, rheolwr tîm y merched yw bod y daith yma yn "ysbrydoli pobl cyn y twrnament".

Bu'r tlws yn ymweld â disgyblion Ysgol Penweddig yn Aberystwyth, ac mae rhai o'r disgyblion yn falch iawn o allu fod yn rhan o'r dathliadau.

'Chwalu rhwystau'

Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal brynhawn Mawrth yn Ysgol Penweddig i groesawu'r tlws i'r ysgol.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr ysgol fod y "twrnament wedi bod yn allweddol i hyrwyddo pêl-droed merched, gan roi llwyfan i chwaraewyr ddisgleirio ar lwyfan rhyngwladol".

"Mae hefyd wedi chwarae rhan hanfodol wrth chwalu rhwystrau ac ysbrydoli merched ifanc i ddilyn y gamp."

Llun o rhai o ddisgyblion yr ysgol gyda'r tlwsFfynhonnell y llun, Ysgol Penweddig
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o ddisgyblion Ysgol Penweddig gyda'r tlws

Ychwanegodd yr ysgol: "Mae'n garreg filltir hanesyddol i bêl-droed merched yng Nghymru fydd heb os yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

"Mae'n gyfnod cyffrous ac rydym yn edrych ymlaen yn awr i gefnogi'r tîm ar eu hanturiaethau gan obeithio cawn reswm i ddathlu ym mis Gorffennaf unwaith eto!"

'Pawb yn teimlo'r cyffro'

Tair sy'n edrych ymlaen at y bencampwriaeth yw Tesni, Elan a Modlen.

Dywedodd Elan o flwyddyn 12 fod "pawb yn teimlo'r cyffro, y bois a'r merched".

"Nes i ddechrau dilyn pêl-droed merched pan wnaeth Lloegr ennill yr Euros bedair blynedd yn ôl, ac roedd gweld y tlws, roedd e'n rhoi e mewn i bersbectif fod e'n bosib.

"Ma' cyment o gefnogaeth gyda'r merched o Gymru, a bydd siwt gymaint o bobl yn mynd mas i wylio nhw."

Ychwanegodd Tesni bod ei diddordeb yn y gêm wedi tyfu ers i Gymru sicrhau eu lle.

"Ers bod Cymru wedi cael safle yn yr Euros, mae e wedi ysbrydoli fi i wylio mwy o fe."

Dywedodd y byddai "100% yn gwylio'r bencampwriaeth".

Tesni, Elan a Modlen Ffynhonnell y llun, Ysgol Penweddig
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tesni, Elan a Modlen yn edrych ymlaen at y bencampwriaeth

Mae Modlen yn chwarae pêl-droed i glwb Aberystwyth ac yn chwarae yng nghynghrair Adran Premier.

Dywedodd ei bod yn cofio "bwrlwm Euro 2016, felly roedd gweld y tlws yn dod â chyffro i ni yn lleol".

"Ges i fy ysbrydoli yn 2022 pan wnaeth Lloegr gyrraedd y ffeinal.

"Mae'n helpu i ysbrydoli mwy o blant i feddwl falle bod hwn yn rhywbeth dwi'n gallu gwneud 'fyd.

"Mae'n neis achos ma' mwy o ymwybyddiaeth lefel ryngwladol yn dod a mwy o ymwybyddiaeth ar lefel leol.

"Dwi'n gobeithio bydd yr un angerdd a'r dynion, pawb eisiau mynd allan i wylio fe, dod at ein gilydd yn ein crysau coch, bydd lot o excitement adre.

y criw yn y senedd o flaen y tlws
Disgrifiad o’r llun,

Y Tlws yn ymweld â'r Senedd ddydd Mercher

Wrth i'r tlws ymweld â'r Senedd ddydd Mercher, dywedodd Rhian Wilkinson, rheolwr y garfan mai ei blaenoriaeth yw cryfhau'r ffydd ymysg y criw.

"Os ydych yn ein cymharu yn syth gyda rhai o'r timau sydd yn mynd i fod yn chwarae, o ran poblogaeth, rydym dipyn yn llai.

"Dyw e ddim am hynny. Mae am bwy yr ydym ni fel Cymry.

"Rydym yn dîm, rydym wedi cysylltu, rydym yn angerddol am y wlad rydym yn ei chynrychioli. Ac felly pan rydym yn camu ar y cae, dyw e ddim am bwy rydym yn wynebu. Mae amdanom ni. Am Gymru, ac am ein perfformiadau.

"Fy mhrif dasg ydi i sicrhau 'mod i'n gwthio'r ffydd yna ynddyn nhw."

'Edrych ymlaen at y dyfodol'

Dywedodd mai'r peth pwysig yw bod y "garfan yn mynd i'r Euros ac yn teimlo fel eu bod yn perthyn yno, yn cyflwyno perfformiadau lle, yn dactegol, ein bod yn hapus, ond ar yr un pryd, ein bod yn medru edrych yn ôl a dweud ein bod wedi rhoi popeth i'r wlad".

"Mae hynny'n swnio'n sylfaenol iawn, ond dyna'r oll dwi'n edrych amdano ar gyfer y tîm yma, dwi'n meddwl fe wnaiff y canlyniadau ddilyn perfformiadau fel hynny.

"Mae'n fraint, a dwi'n edrych ymlaen at weld beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig."

Mae'r tlws eisoes wedi bod yn ymweld â degau o ysgolion a thimau llawr gwlad Cymru, gyda'r daith yn gorffen yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod y daith yn "dathlu mai dyma'r tro cyntaf i Gymru i fod yn rhan o gystadleuaeth mor fawr yng ngêm y merched".

Bydd tîm Rhian Wilkinson yn wynebu'r Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr fis Gorffennaf.

Bydd Cymru yn parhau â'u hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd yn ystod y ddau fis nesaf, gan wynebu Denmarc ar 4 Ebrill ac yna'r Eidal ar 3 Mehefin.