Rowe yn ôl i Gymru i herio Denmarc a Sweden

- Cyhoeddwyd
Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Denmarc a Sweden yng Nghynghrair y Cenhedloedd fis nesaf.
Mae'r ymosodwr Rachel Rowe yn dychwelyd i'r garfan ar ôl i anaf ei chadw allan o gemau agoriadol yr ymgyrch ym mis Chwefror.
Mae Tianna Teisar a Poppy Soper - dwy sydd heb ennill cap rhyngwladol llawn hyd yn hyn - wedi eu cynnwys yn y brif garfan o 26 o chwaraewyr, tra bod Mared Griffiths a Scarlet Hill yn rhan o'r garfan dan-19.
Fe fydd Cymru yn wynebu Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Wener 4 Ebrill cyn teithio i Gothenburg i wynebu Sweden yn Stadiwm Gamla Ullevi ar nos Fawrth 8 Ebrill.

Mae Tianna Teisar eisoes wedi cynrychioli timau ieuenctid Cymru
Mae Cymru yn cystadlu yn haen uchaf y gystadleuaeth yng ngrŵp 4 gyda'r Eidal, Denmarc a Sweden.
Ar ôl colli'r gêm agoriadol yn erbyn yr Eidal a gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Sweden ym mis Chwefror, mae Cymru ar waelod y tabl.
Fe fydd Jess Fishlock yn gobeithio ychwanegu at ei 160 o gapiau rhyngwladol, a bydd cyfle i Angharad James gyrraedd 130 o gapiau os yn chwarae rhan yn y ddwy gêm.
Ond er yn garfan profiadol ar y cyfan, fe all Tianna Teisar - ymosodwr Bristol City - a Poppy Soper - golwr Blackburn Rovers - ennill eu capiau cyntaf.
Y garfan yn llawn
Olivia Clark, Laura O'Sullivan-Jones, Safia Middleton-Patel, Poppy Soper, Rhiannon Roberts, Josie Green, Charlie Estcourt, Hayley Ladd, Gemma Evans, Mayzee Davies, Lily Woodham, Ella Powell, Esther Morgan, Alice Griffiths, Angharad James, Jois Joel, Carrie Jones, Ffion Morgan, Jess Fishlock, Ceri Holland, Rachel Rowe, Kayleigh Barton, Mary McAteer, Tianna Teisar, Hannah Cain, Elise Hughes
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2024