Yr ysgol ym Mangor lle mae 32 o ieithoedd yn cael eu siarad

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Yn Ysgol Hirael ym Mangor mae 32 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad yn yr ysgol diolch i’r disgyblion a’u cefndiroedd rhyngwladol.

Aeth y cyflwynydd radio Aled Hughes yno i siarad gyda’r disgyblion ac i glywed nhw yn dweud bore da yn eu hieithoedd cyntaf ar raglen Aled Hughes.

Mae’r plant yn siarad ieithoedd sy’n cynnwys gwahanol fathau o Arabeg, Wrdw, iaith Fietnam a Tamil. Mae sawl fersiwn o’r iaith Arabeg yn cael ei siarad yn yr ysgol.

Mae’r athro Mr James Parri wedi bod yn yr ysgol ers pedwar mis.

Dywedodd: “Mae yna 32 wahanol iaith yn yr ysgol. Mae gennym ni blant o bob man yma.

“Mae’r agwedd tuag ar yr iaith Gymraeg yn yr ysgol yma yn brilliant. Mae’r plant a’r rhieni yn fodlon dysgu’r iaith, sy’n grêt.

“Dwi wedi bod yn dysgu lot am y plant a’r gwledydd a’r ieithoedd gwahanol sydd yma.

Mae baneri yn y neuadd sy’n dathlu y gwledydd sydd yn yr ysgol a chodau QR ar y wal sy’n dweud stori am y plant a’r gwledydd o lle maen nhw’n dod.

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Hirael, Bangor

Rhieni cefnogol

Dywedodd Mr Parri: “Mae’r rhieni yn gefnogol iawn. Dim just efo gwaith cartref ond hefyd sgwrsio yn y bore, pethau syml fel dweud ‘bore da’ a ‘sut wyt ti?’ a siarad am y tywydd hefyd, felly mae hynny wedi bod yn neis.”

Mae nifer o’r plant yn dod i’r ysgol oherwydd fod eu rhieni yn gweithio yn y brifysgol neu’r ysbyty ym Mangor.

Felly sut mae athrawon yn dysgu plant sy’n siarad nifer o ieithoedd gwahanol?

Dywedodd Mr Parri: “Gyda rhai o'r plant mae Saesneg yn drydedd neu bedwaredd iaith iddyn nhw, wedyn maen nhw’n dysgu Cymraeg hefyd.

"Yn sir Gwynedd, Cymraeg maen nhw’n cael gyda ni.

“Mae’r agwedd yn wych.

“Mae’r plant yn cymryd rhan mewn pethau fel eisteddfod ysgol ac yn dysgu am yr iaith hefyd.

“Dwi wedi dysgu dipyn fy hun ers i fi ddod yma ym mis Chwefror ac mae’n ysgol arbennig i fod ynddi a dwi’n falch iawn i fod yma."

cefndiroedd / backgrounds

rhyngwladol / international

cyflwynydd / presenter

fersiwn / version

agwedd / attitude

baneri / flags

codau / codes

cefnogol / supportive

prifysgol / university

ysbyty / hospital

trydedd neu bedwaredd / third or fourth

gwych / great

balch / proud

Pynciau Cysylltiedig