Galw am adael gwaddol 'dyngarol' yn Eisteddfod Pontypridd

Arwydd yr Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Pontypridd fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw ar eisteddfodwyr i ddod â chyfraniad i fanciau bwyd lleol gyda nhw wrth ymweld â Rhondda Cynon Taf fis Awst.

Mae'r pwyllgor gwaith yn awyddus i dynnu sylw at waith Strategaeth Bryncynon, sy'n rhedeg nifer o weithgareddau a phrosiectau cymunedol, er mwyn dangos "ochr ddyngarol" yr Eisteddfod.

Yn ogystal â phantri bwyd, mae'r strategaeth yn dosbarthu prydau bwyd ac yn cynnal clwb cinio.

Mae 'na ardd gymunedol a chaffi gyda nhw ac maen nhw'n cynnal gweithgareddau sy'n amrywio o bingo i Tai Chi, gan ymateb i'r hyn mae pobl leol eisiau.

Mae hi'n anodd ar nifer o deuluoedd lleol, yn ôl Rhiannon Brown, cydlynydd gwirfoddolwyr Strategaeth Bryncynon: "Dyw llawer o bobl ddim yn gweithio, mae'n anodd ffindo swyddi. Mae cyflogau'n gallu bod yn llai.

"Mae 'na resilience yn y gymuned. Mae gan bobl yma falchder ac maen nhw mo'yn helpu ei gilydd.

"Mae'n bwysig cael y neges yna drosodd bod llawer o bethau da yn digwydd yma a bod pobl mo'yn troi pethe rownd yn y gymuned."

Mae pobl yn cyfrannu tair punt wrth siopa yn y pantri bwyd ac mae'r arian yna yn mynd tuag at gefnogi gwaith Strategaeth Bryncynon. Bydd modd i Eisteddfodwyr gyfrannu nwyddau i'r pantri ar y Maes ym Mhontypridd.

"Mae unrhyw beth maen nhw'n rhoi yn gallu helpu ni i roi 'nôl i bobl sydd mewn angen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig tynnu sylw at yr holl waith da sy'n digwydd yn yr ardal hefyd, medd Rhiannon Brown

Neges debyg sydd gan y gantores Cat Southall, un arall o drigolion yr ardal.

"Ni'n bobl prowd a ni'n hoffi rhoi 'nôl felly bydd hi'n lyfli i weld pobl eraill yn rhoi 'nôl achos bod nhw'n gweld be' sy'n digwydd yn yr ardal."

Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Helen Prosser, mae'n bwysig bod y digwyddiad yn rhoi hwb i economi'r ardal.

"Roedd e'n bwysig iawn i ni fel pwyllgor a phobl leol ein bod ni'n dangos ochr ddyngarol ein gwaith ni. Mae'r Eisteddfod yn gyfle nid yn unig i'r iaith Gymraeg ond yn gyfle hefyd i'r ardal yn economaidd.

"Ni mo'yn steddfod gynhwysol. Bydd 4,000o bobl yn gallu dod i'r eisteddfod am ddim. 'Da ni'n gweld y rhodd o fwyd fel rhan o'r pecyn hwnnw."

'Pwysig dangos y pethau da'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Prosser yn gobeithio i'r ŵyl osod esiampl

Mae Rhiannon Brown yn annog ymwelwyr i grwydro ymhell tu hwnt i'r maes ddechrau Awst.

"Ni moyn i bobl ddweud, es i i Bontypridd ond hefyd es i lan i Abercynon neu Aberpennar. Gwrddais i â phobl yn Ynysboeth, Aberdar, Rhigos, Penderyn.

"Hyd yn oed ishte lawr a chael dishged o de neu fisgien 'da rhywun achos ni'n dysgu wrth ein gilydd ac mae'n bwysig i ni ddangos y pethau sy'n mynd yn dda yn ein cymuned ni."

Gyda banciau bwyd ar draws y wlad, mae Helen Prosser yn gwadu fod yr apêl yn rhoi'r argraff fod hon yn ardal llwm.

"Bydden i'n lico dweud ein bod ni'n gosod esiampl achos ei bod hi'n broblem ym mhob ardal, a falle bod eisteddfodau o hyn ymlaen yn gallu meddwl am rywbeth dyngarol yn eu hardal nhw hefyd."

Yng nghymoedd Rhondda Cynon a Thaf maen nhw'n gobeithio bydd caredigrwydd yn rhan o waddol yr Eisteddfod eleni.