Eisteddfod 2024: A yw pobl leol yn teimlo'n rhan ohoni?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd Eisteddfod 2024
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd arwydd ei ddadorchuddio ym Mharc Ynysangharad ddydd Llun yn ei nodi fel cartref Eisteddfod 2024

Chwe mis cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf, mae 'na alw am wneud mwy i sicrhau fod pobl leol yn teimlo'n rhan o'r digwyddiad.

Mae un o aelodau'r ardal yn y Senedd yn galw eto am gynnig mynediad am ddim i sicrhau bod teuluoedd lleol yn gallu mynd i'r Eisteddfod.

Mae Heledd Fychan yn dweud bod 'na addewid pan gafodd y lleoliad ei gadarnhau y byddai 'na docynnau am ddim i deuluoedd sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Llywodraeth Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud eu bod nhw'n dal i drafod nifer o faterion yn ymwneud â'r Eisteddfod eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Heledd Fychan, mae'n rhaid sicrhau fod pobl leol yn gallu dod i'r eisteddfod

Meddai Ms Fychan: "Mae'n rhaid i ni sicrhau steddfod fforddiadwy... bydden i 'di hoffi steddfod am ddim.

"Mae'n rhaid sicrhau tocynnau am ddim i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf fel eu bod nhw'n gallu profi'r Eisteddfod a bod y gwaddol mor fawr â phosib."Y peth gwaetha fyddai bod llwyth o drigolion lleol yn methu fforddio dod i'r Eisteddfod a profi'r holl arlwy arbennig fydd yma."

'Mae 'na oblygiadau' i gynnig tocynnau am ddim

Ar raglen Dros Frecwast dywedodd cyn drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Hywel Wyn Edwards: "Mae'n rhaid cael rheolaeth achos allwch chi ddim agor y maes i bawb - er enghraifft, mae bron i chwarter miliwn yn byw yn Rhondda Cynon Taf... fydde'r Eisteddfod ddim yn gallu ymdopi efo hynny hyd yn oed os oes 10% o'r rheina yn troi fyny ar yr un diwrnod.

"Mae 'na bob math o bethau angen eu hystyried fel is-adeiledd a thai bach... mae'r syniad o gael mynediad am ddim yn swnio'n fendigedig ond mae 'na oblygiadau iddo fo.

"Mi fyddai'n well gen i weld bod 'na ostyngiad sylweddol i bris tocynnau... mae'n bwysig bod unrhyw gynllun yn cael ei ystyried yn llawn a beth ydi'r oblygiadau i'r Eisteddfod ac i bawb sy'n dod i'r Eisteddfod."

Y farn ym Mhontypridd

Ar y stryd ym Mhontypridd, mae rhai'n poeni am gynnal y digwyddiad ym mharc Ynysangharad.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Jean Bennett ddim yn credu bod digon o le ar y safle ar gyfer yr Eisteddfod

"Pam nagy'n nhw'n cynnal e yng Nghaerdydd?" meddai Jean Bennett.

"Sai'n credu bod digon o le gyda ni fan hyn."

Mae rhai'n poeni am yr effaith ar yr ardal.

"Mae'r traffig am fod yn broblem," meddai Chris Llewellyn.

"Mae'n ddigon gwael yma ar ddiwrnod arferol... gobeithio bod cynllun da gyda nhw."

Mae hi'n dweud na fydd hi'n mynd i'r Eisteddfod "achos sai'n siarad Cymraeg".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Llewellyn yn poeni y bydd y traffig yn broblem

Mae eraill yn falch fod yr Eisteddfod yn dod i'r dre.

"Maen gyffrous a dwi'n meddwl bydd e'n gwneud lles i Ponty," meddai Sarah Joyce.

"Fi'n gwbod bod rhai'n poeni am gau'r parc wythnos cyn yr Eisteddfod ond dwi'n credu bydd e werth e yn y pendraw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Joyce yn credu 'y bydd yr Eisteddfod yn neud lles i Ponty'

Mae eraill hefyd yn barod i groesawu'r ŵyl.

"Fyddai ddim ots 'da fi dalu i fynd mewn achos dwi'n caru'r Cadeirio a'r Coroni," meddai Jane Bright.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Bright yn dweud ei bod hi'n edrych ymlaen at yr Eisteddfod

"Dwi wrth fy modd gyda'r holl awyrgylch.

"Sai'n deall lot o'r iaith ond dwi'n deall digon i wybod be sy'n digwydd a dwi'n caru fe."

'Mwy o geisiadau am wersi Cymraeg'

Mae Dilys Davies ar bwyllgor apêl tre Pontypridd ac yn dweud bod pobl yn gefnogol ar y cyfan. "Ry'n ni'n teimlo ambell waith fod yna agweddau negyddol achos mae rhai'n ofni na fyddan nhw'n gallu mynd i'r parc."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dilys Davies, mae pobl yn gefnogol i'r Eisteddfod ar y cyfan

"Mae'r cyngor wedi cael mwy o geisiadau gan bobl sydd ishe gwybod am ddosbarthiadau Cymraeg nag y maen nhw 'di eu cael erioed o'r blaen felly mae hynna'n bositif.

"Mae lot o bobl ifanc yn helpu ni i godi arian ac mae'r genhedlaeth hŷn yn falch ei fod e'n dod ond mae e'n ddrud a byddai'n hyfryd os allen ni gael gostyngiad i bobl leol ar un o'r diwrnodau... maen nhw wedi gwneud hynny o'r blaen.

"Mae hon yn ardal sy'n haeddu hynny.

"Dyw e ddim jyst i'r Cymry Cymraeg, ry' ni ishe gwneud ein gorau i ddenu pawb."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd 300 o bobl leol yn yr ymarfer cyntaf ar gyfer sioe Nia Ben Aur Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu mynediad am ddim i deuluoedd difreintiedig neu i blant mewn eisteddfodau blaenorol.

Yn Nhregaron bu'n rhaid ailddechrau'r cynllun ar ôl i nifer hawlio tocynnau pan na ddylen nhw fod wedi gwneud hynny.

Dyw'r Llywodraeth ddim wedi dweud beth fydd yn digwydd eleni.  Meddai llefarydd: "Mae cyllideb Llywodraeth Cymru o dan bwysau sylweddol iawn, ond rydym mewn trafodaethau parhaus gyda'r trefnwyr ynglŷn â'r brifwyl ym Mhontypridd eleni."Neges debyg sydd gan yr Eisteddfod."Rydyn ni'n cynnal trafodaethau am nifer fawr o faterion gyda Llywodraeth Cymru bob blwyddyn, ac mae'r trafodaethau hyn yn parhau yng nghyd-destun Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf."