Elin Jones i roi'r gorau i'w rôl fel Llywydd y Senedd

Elin Jones yn siambr y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Elin Jones yw'r unig aelod o Blaid Cymru sydd dal ym Mae Caerdydd ers 1999

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywydd Senedd Cymru yn dweud y bydd yn rhoi'r gorau i'r swydd ar ôl etholiad nesaf y Senedd.

Mae Elin Jones wedi bod yn Llywydd ers 2016, ond nawr mae'n dweud ei bod hi'n bryd cael "pâr newydd o lygaid" i gadw trefn yn y siambr.

Mae'n dweud ei bod yn falch o fod wedi rhoi cynlluniau ar waith i gynyddu aelodaeth y Senedd o 60 i 96 ar ôl mis Mai 2026.

Mae'n gobeithio bod yn aelod o'r senedd honno, ond yn edrych ymlaen at fod yn aelod o'r meinciau cefn.

'Mae'n bryd cael pâr newydd o lygaid'

Cafodd Elin Jones ei hethol i'r Cynulliad cyntaf yn 1999, fel aelod Plaid Cymru dros Geredigion, sedd y mae hi wedi ei chynrychioli ers hynny.

Bu'n weinidog yn ystod y glymblaid Llafur-Plaid Cymru, cyn dod yn Llywydd yn 2016.

Nawr mae hi'n dweud bod etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf yn amser da i drosglwyddo'r awenau.

"Byddaf erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, wedi gwasanaethu fel Llywydd ers 10 mlynedd," meddai.

"Rwy'n meddwl bod hynny'n fwy na digon o amser i rywun gael ei ethol yn Llywydd yn y lle hwn, ac mae'n bryd cael pâr newydd o lygaid yn gwylio'r hyn y mae pobl yn ei wneud yn y siambr hon."

Elin Jones Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin Jones y byddai'n hoffi mynd ar y meinciau cefn

Dywed ei bod yn falch o'i gwaith yn lobïo am fwy o aelodau ar gyfer corff sydd wedi ennill mwy o bwerau ers 1999: "Roeddwn i bob amser yn meddwl bod angen i fi wneud rhywbeth gyda rôl y Llywydd.

"Ac i mi, un o'r prif faterion bob amser oedd gwneud hon yn senedd iawn ar gyfer yr 21ain ganrif."

Mae'n sôn am adroddiad yr Athro Laura McAllister wnaeth awgrymu cynyddu nifer yr aelodau: "…ac yna mae'r trafodaethau gwleidyddol sydd wedi deillio o hynny wedi cymryd bron i 10 mlynedd i gyrraedd y pwynt lle byddwn yn ethol senedd iawn i bobl Cymru y flwyddyn nesaf."

Gyda'r siambr yn cael ei hadnewyddu ar gyfer yr aelodau newydd, dywed Elin Jones ei bod yn bryd cael person newydd yn y gadair.

"Ac ar y nodyn hwnnw, gallaf ddod â'm hamser fel Llywydd i ben a throsglwyddo'r awenau, felly ni fyddaf yn rhoi fy enw ymlaen i fod yn Llywydd ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

"Rwy'n gobeithio bod yn un o'r 96 sydd fan hyn, ond fyddai ddim yn rhoi fy enw i ymlaen."

Dyw hi ddim yn diystyru'r posibilrwydd o fod yn rhan o lywodraeth, ond mae'n dweud y byddai'n well ganddi fod yn aelod o'r meinciau cefn.

Dywedodd: "Rwy'n gobeithio dychwelyd yma fel yr aelod dros Geredigion Penfro, a'r hyn yr hoffwn ei wneud yn fawr yw mynd ar y meinciau cefn, gwneud y gwaith craffu hwnnw rwy'n meddwl sydd mor bwysig i'w wneud, a gwneud yn dda yn y lle hwn... oherwydd rwy'n credu'n aml ei fod yn rôl bwysig iawn.

"Ond pwy a ŵyr efallai y bydd Plaid Cymru yn gwneud yn dda yn yr etholiad hwnnw, a phwy a ŵyr pa gyfleoedd fyddai'n agor, ond byddwn i'n fwy na hapus fel aelod meinciau cefn go iawn yn senedd nesaf Cymru."

Pan ofynnwyd iddi pa fath o aelod o'r meinciau cefn fydd hi, yn rebel neu'n un ffyddlon, atebodd Elin Jones: "Mi fydda i'n heriol."