Y ferch o Benygroes sy'n teithio'r wlad yn ymweld â chaeau clybiau pêl-droed

Menyw ifanc yn gwisgo gwisg wen a sbectol haul yn sefyll wrth ymyl dyn ifanc yn gwisgo crys pêl-droed yn tynnu hunlun wrth sefyll o flaen cae pêl-droed 3G.Ffynhonnell y llun, Sioned Young
Disgrifiad o’r llun,

Sioned a'i chariad Jordan yn ymweld â chae clwb pêl-droed Treborth United

  • Cyhoeddwyd

Mae Sioned Young yn arlunydd digidol o Benygroes, sydd hefyd yn mwynhau teithio o amgylch gogledd Cymru yn ei hamser sbâr yn ymweld â chaeau clybiau pêl-droed amatur.

'Groundhopping' yw'r enw ar yr hobi yma, a bellach mae 'na gymuned o 'groundhoppers' yn bodoli ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhannu fideos o'u hunain yn mynd o un cae pêl-droed i'r llall.

Mae Sioned a'i chariad Jordan yn gwneud yr un fath, yn rhannu fideos sydd â dros 1,000 o ddilynwyr ar ei thudalen, 'Mwydro'., dolen allanol

Fel eglurodd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, dim ond yn weddol ddiweddar mae hi a'i phartner wedi bod wrthi:

"Haf blwyddyn dwethaf, o'dd fi a 'mhartnar Jordan yn chwilio am rwbath i wneud yn ystod yr haf, ac mae o'n football mad!

"Mae'n rhoi hwb i fi fynd i lefydd newydd sbon. Ti'n cael blas o'r pentra' neu'r tre yr un pryd 'fyd."

Does ganddyn nhw ddim targed penodol ar hyn o bryd, dim ond ymweld â chymaint o gaeau â sy'n bosib - y rhan fwyaf yn glybiau amatur. Mae Sioned a Jordan yn gobeithio teithio i'r Iseldiroedd yn yr hydref ar wyliau ac ymweld â chaeau clybiau bach yno hefyd.

 hithau wedi gweld 24 gêm mewn 16 o gaeau pêl-droed yng Nghymru a Lloegr yn ystod tymor 2024-25, mae Sioned wedi dewis rhestr o'i hoff bethau mae wedi eu profi yn 'groundhopio' hyd yma:

Nwyddau gorau

Het a chrys Clwb Pêl-Droed PorthmadogFfynhonnell y llun, CPD Porthmadog

"Y club shop ora oedd [Clwb Pêl-Droed] Porthmadog - o'dda nhw yn arbennig efo lot o wahanol betha.

"Oedd Y Felinheli'n reit dda 'fyd, chwara teg – ma' nhw bob tro efo hetia, sgarffia – pawb yn dangos y brand."

Y gêm orau

Dynion ar gae pêl-droed yn dathlu gôlFfynhonnell y llun, Sioned Young

"Gêm reit ddiweddar - gêm ail gyfle Caernarfon yn erbyn Y Barri. 5-2 oedd y sgôr [i Gaernarfon], ond odd o'n arbennig, naws grêt.

"Be' oedd yn brilliant oedd, er bod Y Barri yn colli, 'nath ysbryd y ffans byth fynd i lawr, chwara teg. Odda nhw'n dawnsio a'n canu tan y diwadd 'de, so odd hwnna'n neis i weld!"

Y cefnogwyr gorau

Dynion yn chwarae ar gae pêl-droedFfynhonnell y llun, Sioned Young

"Dwi wastad yn dweud Clwb Bethesda Athletic sydd â'r ffans gora' achos ma'r bobl ifanc efo cân ar gyfer bob un chwaraewr, sy'n 'neud nhw deimlo reit enwog!

"Ma'r cefnogwyr ifanc yn dod â rhyw ysbryd da i'r gêm hefyd."

Y foment fwyaf doniol

Disgrifiad,

Pêl yn cael ei achub o'r nant gyda rhwyd arbennig ym Mhenrhyndeudraeth

"Rhain yw'r petha dwi'n chwilio allan amdanyn nhw mewn gema' achos dwi ddim yn gwbod petha technical. Peidiwch gofyn i fi am yr offside rule neu unrhyw beth fela!"

Soniodd Sioned am ddigwyddiad doniol yn Maes y Parc, cae CPD Penrhyndeudraeth sydd reit wrth ymyl afon:

"Dyma fi'n gweld y rhwyd enfawr 'ma pan o'n ni'n mynd o gwmpas y cae i gychwyn. A fan'no oedd y rhwyd yn dod allan er mwyn dod i nôl y bêl o'r afon bob tro odd o'n mynd i mewn, odd yn reit amal!"

Y bwyd gorau

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 2, Pei 'chicken balti', Cael pei chicken balti yng nghae Croud Meadow yn Yr Amwythig

"Gathon ni chicken balti pie lyfli yn Yr Amwythig [yng nghae] Croud Meadow.

"Y runner up swn i'n dweud yw Penmaenmawr Phoenix – odda nhw'n neud pryd lyfli hefyd."

Yr olygfa orau

Dynion ar gae pêl-droed o dan frynFfynhonnell y llun, Sioned Young

"Dewis anodd iawn, deud y gwir, ond Cae'r Delyn yn Nefyn. Rili neis o olygfa!"

Y baned orau!

Dwy baned o deFfynhonnell y llun, Sioned Young

"Da ni bob tro'n neud siŵr, dim ots be' ydi'r tywydd, bod ni'n cael panad!

"[Y baned orau oedd ym] Mynydd Llandegai, am y rheswm syml bod ni'n cael panad mewn myg go iawn so dwi'n licio hynna o ran gwarchod yr amgylchedd a hefyd bod chi just yn cael myg o gwpwrdd cegin rhywun!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig