Arestio dau wedi i faban pedwar mis oed farw yn Sir Benfro

Clunderwen
  • Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi'u harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl i faban farw yng Nghlunderwen yn Sir Benfro.

Fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw am 13:45 brynhawn Gwener i eiddo yn yr ardal wedi pryderon am les bachgen pedwar mis oed.

Bu farw’r plentyn yn y fan a’r lle.

Mae dynes 19 oed a dyn 23 oed wedi'u ryddhau ar fechnïaeth erbyn hyn ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn.

Dywedodd y llu dydd Sul fod marwolaeth y babi yn cael ei thrin fel un anesboniadwy.

“Bydd pobl sy’n byw yn ardal Clunderwen yn gweld presenoldeb heddlu cynyddol dros y dyddiau nesaf,” ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig