Gofal a gwaith: 'Mam a merch ydan ni, nid gofalwr a chlaf'
- Cyhoeddwyd
"Mae fy niwrnod i yn dechrau gyda'r ffôn. Y peth cynta bydda' i yn gwneud bob un bore yw edrych ar y ffôn a ffonio Mam i weld os yw hi yn iawn.
"Dwi'n siŵr gall nifer o bobl uniaethu gyda hyn achos ma'r alwad ffôn gynta yna yn y bore mor, mor bwysig."
Mae Rhian Mair Jones o Fryn-teg, Ynys Môn yn helpu i ofalu am ei mam, sy'n 88 oed ac yn byw tua dwy filltir i ffwrdd.
Mae Rhian yn gweithio fel tiwtor hunan-gyflogedig. Cyn hynny bu'n ddarlithydd, ond penderfynodd y byddai gweithio'n achlysurol yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddi ddewis a threfnu ei horiau a gofalu am ei mam.
Amcangyfrifir bod 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru - 10.5% o'r boblogaeth - ac mae nifer fawr o'r rheiny'n gofalu ac yn gweithio mewn swydd.
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2024
Dywed Rhian Mair fod cael y cydbwysedd rhwng gwaith a gofal yn aml yn heriol.
"Ar ôl ein sgwrs foreol bydda' i yn mynd ati wedyn i gynllunio'r diwrnod, sef pryd dwi angen neu isio mynd i weld Mam ac yna cynllunio fy ngwaith o gwmpas hynny.
"Dwi yn byw yn ôl fy nyddiadur oherwydd mae 'na gymaint o apwyntiadau meddygol mewn sawl ysbyty a chlinig o gwmpas yr ardal."
Er mwyn sicrhau bod ei mam yn cael y gofal gorau posib fe benderfynodd Rhian bod rhaid newid ei threfniadau gweithio.
"Dwi'n ffodus - rhan amser ydw i'n gweithio rŵan a ma' ngwaith i yn eitha' hyblyg.
"Mi ydw i wedi rhoi'r gora', y flwyddyn ddiwetha' 'ma, i waith oedd efalla' yn llai hyblyg ac oedd efo dyddiadau mwy tynn... dwi wedi symud i waith lle dwi yn rheoli amserlen fy hun."
150,000 yn gofalu ac yn gweithio
Mae gofalu law yn llaw â gweithio yn rhywbeth mwy cyffredin nag y mae pobl yn ei ddisgwyl, yn ôl Dr Catrin Edwards, pennaeth materion allanol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
"Mae bron i hanner i bob un sydd yn uniaethu fel gofalwr di-dâl yng Nghymru hefyd yn gweithio," meddai, "felly bron i 150,000 o bobl yng Nghymru yn gofalu ac yn gweithio ar yr un pryd.
"Rhywbeth sydd yn syfradanol i fi yw bod na 25,000 o bobl sydd yn gweithio ac yn gofalu am dros 50 awr yr wythnos, felly yn gofalu am fwy na ma'n nhw yn gweithio llawn amser."
Wrth drafod y dyfodol, mae Rhian Mair yn teimlo y gallai ambell beth syml helpu pobl fel hi sy'n gofalu a gweithio.
"Be' fydde'n helpu [fydde bod mewn cysylltiad â pherson] sydd yn medru cymryd cam yn ôl oddi wrth y gwahanol broblema' meddygol, gofal a chymdeithasol sydd gan berson, ac yn medru rhoi darlun cyflawn o'r holl beth, a wedyn gweld beth ydy'r mân bethau all helpu."
Mae hyd yn oed rhywbeth mor syml â threfnu rhoi'r biniau allan i'w casglu weithiau yn gallu bod yn anodd.
"O'n i'n sôn am hyn wrth ffrind a dyma hi yn dweud 'mi neith y gwasanaethau ddod rownd cefn y tŷ os wnewch chi roi cais i mewn'. Mae'r ddolen gen i rŵan a mi fydd hynny'n digwydd."
'Dwi'n dymuno bod yna'
Er y sialensau, mae Rhian yn bendant ei bod eisiau gwneud ei gorau dros ei mam.
"Mae'n ddyletswydd i ni edrych ar ôl ein rhieni sydd yn mynd i oed, ond hefyd mae o'n fraint.
"Mi 'nath Mam edrych ar ôl fy mhlant i pan oeddwn i yn gweithio a'r plant cyn oed ysgol ac ati.
"Dwi'n dymuno talu'n ôl am hynny rŵan a dwi hefyd yn dymuno edrych ar ôl fy mam fy hun. Dwi'n dymuno bod yna."
Yr her, meddai, "ydi rhyw fath o jugglo hynny rhwng eich bywyd eich hun" tra'n dal gafael ar y "statws mae gyrfa yn ei roi i ni ac, wrth gwrs, yr arian hefyd".
Dywed Dr Catrin Edwards fod hawliau statudol gan ofalwyr sy'n gweithio, a deddf absenoldeb i ofalwyr mewn grym ers blwyddyn.
"Mae hawl gan ofalwyr di-dâl i ofyn am bum diwrnod ffwrdd o'r gwaith, a hynny yn ddi-dâl ar hyn o bryd, ond ma'r hawl yna gan bobl o'r diwrnod cynta' maen nhw yn dechrau yn y gwaith.
"Mae'r hawl 'na yn galluogi person, er enghraifft, i fynd â mam am apwyntiad neu godi presgripsiwn - yr holl bethau yna, gwaith admin bywyd, pethau fel gofalwr di-dâl chi yn gwneud ond does dim digon o oriau yn y dydd.
"Felly ma'r hawl yna yn rhoi'r hawl i'r bobl yna gymeryd yr amser yna o'r gwaith."
'Mwy o bolisïau' yn y gweithle i helpu gofalwyr
Cynyddu ymwybydiaeth o anghenion gofalwyr gyda chyflogwyr yw un o'r heriau mawr, yn ôl Dr Edwards.
"Mae'n siŵr fod pob gweithle â gofalwyr ymhlith eu gweithlu, a mae'r rhan fwyaf ohonon ni yn mynd i fod yn ofalwyr ar ryw adeg o'n bywydau ni.
"Mae'r ymwybyddiaeth 'na o beth yw'r heriau, beth yw'r pwysau a beth yw'r angen ar ofalwyr o ran pwysau gwaith a gofalu yn holl bwysig, a dwi yn meddwl beth welwn ni yw mwy o bolisïau o fewn y lle gwaith sydd yn adlewyrchu yr angen hynny i fod yn hyblyg i ofalwyr."
Yn y cyfamser mae Rhian Mair yn paratoi i ffonio ei mam i weld sut mae hi heddi.
Mae ei mam yn annibynnol ac yn mwynhau cwmni ei theulu a ffrindiau, ond fel miloedd o bensiynwyr eraill mae hi angen help o bryd i'w gilydd, ac mae ei merch wrth law pan bod angen.
"Mae yn bwysig cofio nad perthynas gofalwr a chleient yw'r berthynas ond Mam a merch.
"Mae hynna yn golygu drwy wahanol adnoddau bod modd hwyluso bod Mam yn gallu edyrch ar ôl ei hun i'r graddau mae'n gallu heb bo fi ddim yn cymeryd drosodd.
"Mam a merch ydan ni, nid gofalwr a chlaf neu gleient ydan ni, a bod y berthynas yna dal yn iach."