Arestio trydydd dyn yn dilyn anrhefn wedi gêm bêl-droed

Joel CollinsFfynhonnell y llun, Avenue Hotspur
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Joel Collins - golwr Avenue Hotspur - ei anafu yn dilyn y gêm yn erbyn Llanrumney Athletic

  • Cyhoeddwyd

Mae trydydd dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad treisgar ar ôl gêm bêl-droed yng Nghaerdydd.

Cafodd Joel Collins - golwr Avenue Hotspur - ei anafu yn ddifrifol yn dilyn gêm yn erbyn Llanrumney Athletic, tra bod cerbyd hefyd wedi cael ei ddifrodi.

Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gafon nhw eu galw i ddigwyddiad y tu allan i'r Ganolfan Hamdden Ddwyreiniol ychydig ar ôl 16:00 ar ddydd Sadwrn 12 Hydref.

Cafodd dyn 19 oed o ardal Llanrhymni ei arestio ym Maes Awyr Bryste fore Llun ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa tra bod ymholiadau yn parhau.

Mae dau ddyn eisoes wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o anrhefn treisgar mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Benjamin Dean, 28 oed o ardal Trowbridge, a Ryan Rees 22 oed o Lanrhymni, wadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Yn y gwrandawiad hwnnw fe glywodd y llys bod dau berson arall oedd dan amheuaeth gan yr heddlu "wedi ffoi i Sbaen".

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig