Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru 25-28 Fiji

Cymru 25-28 Fiji
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Cymru yn erbyn Fiji yn eu gêm olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
25-28 oedd y sgôr yng Nghaerwysg, gyda Carys Cox, Sisilia Tuipulotu a Kayleigh Powell yn ceisio i Gymru.
Gyda Canada a'r Alban eisoes wedi selio eu lle yn yr wyth olaf, roedd y ddau dîm yn ei throi hi am adref ar ôl y gêm beth bynnag y sgôr.
Mae'r golled yn golygu bod Cymru yn gorffen yr ymgyrch ar waelod Grŵp B.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd30 Awst
Cafodd Cymru'r dechrau perffaith i'r gêm gyda Carys Cox yn ceisio yn yr ail funud ar ôl pas dda gan Lleucu George.
Ond o fewn ychydig o funudau roedd Fiji ar y blaen ar ôl gwneud y mwyaf o sgrym wael gan Gymru, gyda Josivini Naihamu yn ceisio a Litiana Vueti yn trosi.
Un o'r pedwar newidiadau i'r tîm a wynebodd Canada oedd y cyd-gapten Alex Callender a roddodd Cymru yn ôl ar y blaen gyda chais yn y 12fed munud.
Mewn hanner cystadleuol, nid oedd Cymru ar y blaen am hir diolch i Naihamu a sgoriodd ei hail gais o'r gêm cyn i Vueti drosi unwaith eto i wneud y sgôr yn 10-14 i Fiji.
Er y dechrau da, fe gollodd Cymru gafael ar y gêm ac fe wnaeth Fiji ymestyn y sgôr i 10-21 wedi cais gan Setaita Railumu a throsiad arall gan Vueti.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i dîm Sean Lynn wrth i Repeka Tove wneud y mwyaf o'r gwagle ar yr asgell dde i geisio i Fiji cyn i Vueti drosi unwaith eto.
Ond fel yr oedd yr hanner cyntaf yn dod i ben, fe wnaeth Sisilia Tuipulotu geisio i wneud y sgôr yn 15-28 a sicrhau ail hanner cystadleuol.
Fe ddechreuodd Cymru'r ail hanner yn yr un modd a'r hanner cyntaf, gyda chais cynnar - y tro yma gan Kayleigh Powell.
Ond unwaith eto, roedd cicio Cymru'n wael gyda Keira Bevan yn colli'r cyfle i gau'r bwlch ar y sgorfwrdd.
Gyda llai na 10 munud yn weddill, daeth y pumed cais i Gymru gan Lisa Neumann yn dilyn rhediad gwych gan Cox.
Ond dan bwysau gan Gymru am y munudau olaf, fe wnaeth Fiji ddal ar i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.