Cwpan Rygbi'r Byd: Capteiniaid Cymru yn ôl i wynebu Fiji

Doedd Kate Williams [uchod] ac Alex Callender ddim ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Canada, ar ôl cael anafiadau yn erbyn yr Alban
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn croesawu'r cyd-gapteiniaid Alex Callender a Kate Williams yn ôl i'r tîm i herio Fiji yn eu gêm olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
Mae Cymru a Fiji wedi colli pob gêm hyd yma yng Ngrŵp B, a bydd y ddau dîm yn ei throi hi am adref ar ôl y gêm yma, gan fod Canada a'r Alban eisoes wedi selio eu lle yn yr wyth olaf.
Mae'r prif hyfforddwr Sean Lynn wedi gwneud pedwar newid i'r tîm fydd yn cychwyn y gêm yng Nghaerwysg ddydd Sadwrn.
Dywedodd Lynn fod y chwaraewyr, hyfforddwyr a staff "yn benderfynol o orffen Cwpan y Byd ar nodyn uchel".

Cafodd Cymru gweir 42-0 yn erbyn Canada yn eu gêm ddiwethaf
Mae'r bachwr profiadol Carys Phillips yn dychwelyd i'r rheng flaen, tra bod Kayleigh Powell yn dechrau fel cefnwr am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth.
Bydd Nel Metcalfe yn symud i'r asgell yn lle Jasmine Joyce-Butchers - sydd wedi'i henwi i'r fainc.
Mae Georgia Evans yn symud i'r ail reng, gan fod Callender a Williams yn dychwelyd i'r rheng-ôl.
Mae Fiji yn cael eu hyfforddi gan y Cymro, Ioan Cunningham, wnaeth adael ei rôl fel prif hyfforddwr Cymru ym mis Tachwedd.
Tîm Cymru
Kayleigh Powell; Lisa Neumann, Carys Cox, Courtney Keight, Nel Metcalfe; Lleucu George, Keira Bevan; Maisie Davies, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Georgia Evans, Gwen Crabb, Kate Williams [cyd-gapten], Bethan Lewis, Alex Callender [cyd-gapten]
Eilyddion: Molly Reardon, Gwenllian Pyrs, Donna Rose, Abbie Fleming, Bryonie King, Seren Lockwood, Hannah Dallavalle, Jasmine Joyce-Butchers
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Awst
- Cyhoeddwyd14 Awst