Dim un Cymro yng ngharfan y Llewod ar gyfer y gêm brawf gyntaf

Jac MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jac Morgan yn un o ddau Gymro gafodd eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y daith i Awstralia

  • Cyhoeddwyd

Nid oes un Cymro wedi ei ddewis yng ngharfan y Llewod ar gyfer y gêm brawf gyntaf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Dyma'r tro cyntaf i hynny ddigwydd ers y daith i Dde Affrica yn 1896, yn ôl un ystadegydd rygbi.

Dau Gymro yn unig, Jac Morgan a Tomos Williams, gafodd eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y daith i Awstralia - y nifer lleiaf ers yr Ail Ryfel Byd.

Ond bu'n rhaid i Williams ddychwelyd adref ar ôl cael anaf ym muddugoliaeth y Llewod dros Western Force.

Mae Jac Morgan wedi gwneud sawl ymddangosiad yn ystod y daith ac wedi chwarae'n dda yn y gemau hynny - gyda sawl un yn credu y gallai hawlio'i le yn y garfan.

Ond mae'r prif hyfforddwr Andy Farrell wedi dewis Tom Curry yn y crys rhif saith, gyda dau Sais, Ollie Chessum a Ben Earl, yn opsiynau ar y fainc.

Mae'r garfan o 23 ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn yn cynnwys 11 o Iwerddon, naw o Loegr a thri o'r Alban.